Cwest Llanfairfechan: Bachgen wedi syrthio oddi ar ei feic cyn gwrthdrawiad angheuol

Llanfairfechan. Harrison Glynne Jones

Clywodd cwest fod bachgen chwech oed wedi syrthio oddi ar ei feic y tu allan i'w gartref cyn i gerbyd ei daro ar y ffordd yn Llanfairfechan.

Bu farw Harrison Glynne Jones ar 1 Hydref. 

Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun ddydd Llun fod y patholegydd Dr Brian Rodgers wedi cynnal archwiliad post mortem gan gofnodi trawma difrifol. 

Cafodd y cwest ei ohirio gan y crwner John Gittins wrth i ymchwiliadau pellach gael eu  cynnal.  

Mae apêl ar-lein i godi arian ar gyfer teulu Harrison wedi codi mwy na £28,000.

Mae'r neges ar y wefan yn nodi: "Ar 1 Hydref, newidiodd bywyd ein teulu am byth, pan gafodd mab prydferth chwech oedd Kayleigh a Daryl ei daro mewn modd trasig gan gerbyd y tu allan i'w gartref, cyn iddo farw gyda'i deulu'n bresennol. 

 "Does dim geiriau all ddigrifio'r tor calon i'w rieni, chwiorydd a'r teulu cyfan. Ni ddylai teulu fyth orfod colli plentyn mor sydyn, o dan amgylchiadau mor drasig, ac rydym i gyd yn ei chael hi'n anodd ymdopi."

"Roedd Harrison yn hogyn direidus, llawn cymeriad, gyda phersonoliaeth a allai oleuo ystafell." 

Cafodd dyn lleol 39 oed ei arestio mewn cysylltiad â’r gwrthdrawiad ac mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.