Adam Price yn ymweld â Boston i annog buddsoddiad gan y Cymry ar wasgar

Adam Price yn Boston

Fe fydd gweinidog o Lywodraeth Cymru yn ymweld â’r Unol Daleithiau yr wythnos hon i annog y Cymry ar wasgar i fuddsoddi yng Nghymru er mwyn hybu twf.

Fe fydd Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, yn mynd i Boston i “feithrin cysylltiadau masnach a buddsoddi newydd ym meysydd deallusrwydd artiffisial, technoleg a digidol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y daith hefyd yn rhan o ymdrechion i “ymgysylltu â'r diaspora Cymreig yn ardal Boston, gan gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Diaspora” a “hyrwyddo Cymru fel lle i entrepreneuriaid o'r diaspora fuddsoddi.”

Ychwanegodd y llywodraeth y bydd Mr Price yn mynd yn ôl i un o brifysgolion enwocaf yr UDA i sôn am gyfleon i Gymru gyda thwf AI.

Fe astudiodd ym Mhrifysgol Harvard ar gyrion Boston yn y gorffennol.

“Fe fydd hefyd yn mynd i uwchgynhadledd ryngwladol fawr ar dechnolegau newydd, yn siarad yn Harvard am le Cymru yn y chwyldro deallusrwydd artiffisial ac yn cyfarfod â'r diaspora Cymreig,” meddai llefarydd.

Bydd hefyd yn cyfarfod â chwmnïau yn y sectorau gwyddorau bywyd ac ynni “i drafod cyfleoedd buddsoddi a masnachu â Chymru.”

Dywedodd Mr Price: "Mae Boston yn un o ganolfannau technoleg mwyaf deinamig y byd, ac mae'r ymweliad hwn yn gyfle i roi Cymru yn gadarn ar y map fel partner o ddewis ar gyfer buddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial a thechnoleg. 

"Drwy gyfarfod â buddsoddwyr, busnesau a'n cymuned diaspora, rydym yn agor drysau a fydd yn dod â swyddi a chyfleoedd adref. Mae dychwelyd i Harvard i siarad am le Cymru yn y chwyldro deallusrwydd artiffisial yn gyfle i ddangos y gall gwlad fach gystadlu ac ennill ar y llwyfan byd-eang."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.