Ymgeisydd Llafur yn trechu Zack Polanski yn hen sedd Keir Starmer

Sagal Abdi-Wali (dde) fydd AS newydd yr etholaeth
Zack Polanski, Sagal Abdi-Wali. Jordan Pettitt/PA Wire

Mae Llafur wedi dal ymlaen i etholaeth Holborn a St Pancras gan guro arweinydd y Blaid Werdd, Zack Polanski, mewn is-etholiad gafodd ei ysgogi gan ymddiswyddiad y cyn-brif weinidog, Syr Keir Starmer.

Cafodd y sedd yng nghanol Llundain ei hennill gan Sagal Abdi-Wali, arweinydd Cyngor Camden. Fe gipiodd hi 12,292 o bleidleisiau (45%) gyda Mr Polanski yn ail ar 8,928 (33%).

Mae'r canlyniad yn debygol o gynyddu'r pwysau ar Mr Polanski, sydd wedi derbyn beirniadaeth wedi i aelodau Plaid Werdd Lloegr a Chymru gefnogi cynnig yn eu cynhadledd yn datgan fod Seioniaeth yn hiliol.

Cafodd y mesur dadleuol ei wrthwynebu gan bedwar o bump AS y blaid yn San Steffan, gan arwain hefyd at ymddiswyddiad eu dirprwy arweinydd yng Nghymru.

Mae'n rhan o densiynau ehangach o fewn y blaid, sydd wedi ehangu'n sylweddol o dan arweinyddiaeth asgell chwith Mr Polanski.

Wedi'r canlyniad, gwrthododd y gwleidydd awgrym y gallai wynebu her i'w arweinyddiaeth.

"Wrth gwrs galla' i gario 'mlaen fel arweinydd y Blaid Werdd," meddai. "Ro'n eisiau ennill, wrth gwrs, does neb yn sefyll mewn etholiad i golli."

Ychwanegodd fod llawer o etholwyr wedi dweud wrtho eu bod am bleidleisio dros Lafur i "roi cyfle" i Andy Burnham fel Prif Weinidog.

'Dod â phobl at ei gilydd'

Er bod gogwydd tua'r Gwyrddion o'i gymharu â'r etholiad cyffredinol diwethaf, hawliodd Ms Abdi-Wali fwyafrif o dros 3,300 o bleidleisiau yn yr is-etholiad.

Dywedodd yr AS newydd, a symudodd i Lundain yn blentyn ar ôl ffoi Somalia, fod y fuddugoliaeth yn cynrychioli math o wleidyddiaeth sy'n "dod â phobl at ei gilydd."

"Dwi'n gobeithio bod y foment hon hefyd yn dweud rhywbeth am bwy sy'n cael perthyn, i bobl sy'n edrych fel fi, dwi'n gobeithio eu bod nhw'n gweld eu hunain yn y lle yma ac yn teimlo fod eu llwybr nhw'n perthyn i fan hyn hefyd,' meddai.

"Dyma Camden, a dyma Brydain."

Roedd 15 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr is-etholiad i gyd. Daeth yr ymgeisydd Ceidwadol, Ewan Cameron, yn drydydd, o flaen Reform UK a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe ddaeth y sedd yn wag wedi i Syr Keir gyhoeddi y byddai'n ymddiswyddo fel aelod seneddol er mwyn canolbwyntio ar rôl mewn materion rhyngwladol, wythnosau'n unig ar ôl gadael 10 Downing Street.

Lluniau: Jordan Pettitt/PA Wire 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.