Teyrngedau i feddyg teulu wrth i’w gŵr ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o’i llofruddio

Dr Hannah Cain

Mae perthnasau wedi rhoi teyrnged i feddyg oedd yn gofalu am aelodau o’r teulu brenhinol wrth i’w gŵr ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o’i llofruddio.

Cafodd Dr Hannah Cain, 45, ei chanfod yn farw yn ei chartref yn Fern Hill, Dersingham, ger Ystâd Sandringham yn Norfolk, yn oriau mân y bore ar Hydref 4.

Ddydd Mercher, disgrifiodd ei theulu hi fel rhywun “caredig, hael a chariadus” gan ganmol “y gofal mawr roedd hi’n ei roi i’w holl gleifion”.

Cafodd Mark Cain, 45, o Fern Hill, Dersingham, ei arestio ar ôl y digwyddiad a’i gyhuddo o’i llofruddio.

Ymddangosodd Mr Cain gerbron Llys Ynadon Norwich ddydd Mercher yn gwisgo siwmper ddu.

Siaradodd i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni yn unig, ac ni ofynnwyd iddo gyflwyno ple.

Dywedodd yr erlynydd Jacqui Hanlon wrth y llys fod y gwasanaeth ambiwlans wedi cysylltu â’r heddlu am 2.25am ar Hydref 4.

Dywedodd fod Dr Hannah Cain wedi cael ei “chanfod mewn ystafell wely i fyny’r grisiau, heb fod yn anadlu ac yn anymwybodol”.

Dywedodd fod archwiliad post-mortem wedi nodi bod anaf wedi’i achosi gan ergyd â gwrthrych di-fin (blunt force injury) i ochr dde ei phen.

Roedd anaf arall a “allai awgrymu bod pwysau wedi’i roi ar y gwddf”.

“Roedd plant yn yr eiddo ar y pryd,” meddai.

Dywedodd y barnwr rhanbarth Matthew Bone wrth Cain: “Rwy’n anfon eich achos i Lys y Goron King’s Lynn, lle byddwch yn ymddangos bore yfory (dydd Iau), ac rwy’n eich cadw yn y ddalfa.”

Fe wnaeth Heddlu Norfolk gyhoeddi datganiad o deyrnged gan ei theulu yn ddiweddarach ddydd Mercher.

Dywedodd y teulu: “Rydyn ni wedi’n chwalu ar ôl colli ein Hannah hardd.

“Roedd hi’n garedig, yn hael ac yn gariadus; yn fam, merch, chwaer, modryb, merch-yng-nghyfraith a ffrind annwyl.

“Rydyn ni’n hynod falch o’r person oedd hi ac o’r gofal mawr roedd hi’n ei roi i’w holl gleifion, oedd yn ei hadnabod fel Dr Terry.

“Byddem yn gofyn i bobl barchu ein preifatrwydd ar yr adeg anodd hon.”

Mae’r cyfeiriad yn Fern Hill ychydig dros filltir o Dŷ Sandringham, un o gartrefi brenhinol y Brenin a’r Frenhines.

Roedd Dr Cain, oedd yn defnyddio’r enw Dr Hannah Terry yn ei gwaith, wedi’i rhestru fel aelod o dîm y practis yng Nghanolfan Feddygol Grimston.

Roedd hi’n rhan o grŵp o feddygon oedd ar alwad yn rheolaidd i aelodau o’r teulu brenhinol gerllaw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.