Lledu twneli Bryn Glas yn un o’r opsiynau dan ystyriaeth ar gyfer yr M4
Mae Llywodraeth Cymru yn cadw meddwl agored am ffyrdd o wella trafnidiaeth o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd, gan gynnwys lledu twneli Bryn Glas.
Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper gyhoeddi yn y Senedd ddydd Mawrth y byddai astudiaeth dros 18 mis yn ystyried yr holl opsiynau posib ar gyfer lleihau tagfeydd ar y draffordd.
Dywedodd eu bod nhw wedi dod i’r casgliad bod “angen gwella isadeiledd y ffyrdd”.
Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi codi pryderon mawr am yr opsiynau gan rybuddio na ddylid "mynd yn ôl o ran trafnidiaeth."
Mae'r opsiynau yn cynnwys lledu twneli Bryn Glas, gan gostio £1.7bn a chymryd 12 mlynedd, a chau rhai o gyffyrdd yr M4, gan gostio £14m a chymryd dwy flynedd.
Un o'r opsiynau eraill yw uwchraddio’r A48 a’r A4810, sef y 'Llwybr Glas' gynt, gan gostio £1.8 biliwn a gan gymryd 8 mlynedd.
Dywedodd y llywodraeth fod “amrywiaeth o opsiynau cymhleth i’w hystyried” ac ar ddiwedd yr 18 mis “bydd yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio yn cael ei ddewis”.
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mark Hooper: “Byddwn yn cynnal astudiaeth dros 18 mis i ystyried amryw o ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau’r M4 o amgylch Casnewydd drwy adeiladu neu addasu ffyrdd.
“Ochr yn ochr â’r gwaith hwnnw, ry’n ni’n cymryd camau i leihau traffig ar yr adegau prysuraf hyd at tua un o bob deg cerbyd.
“Mae pob cerbyd sy’n cael ei dynnu oddi ar y ffordd yn helpu ar draffordd sydd eisoes yn cludo cymaint o draffig ag y gall ymdopi ag ef, neu fwy na hynny, ar yr adegau prysuraf.”
Yn y cyfamser, bydd rhaglen o welliannau ymarferol hefyd yn cael eu rhoi ar waith dros y pum mlynedd nesaf er mwyn sicrhau manteision yn gynt, meddai Llywodraeth Cymru.
Bydd y rhain yn cynnwys:
- Buddsoddi mewn adnewyddu a chynnal a chadw’r rhwydwaith presennol o briffyrdd a thraffyrdd a’r seilwaith cysylltiedig.
- Cynllun gweithredu i wella’r ffordd mae’r draffordd yn cael ei gweithredu a’i rheoli, a gwelliannau penodol i ffyrdd a chyffyrdd o amgylch Casnewydd. Bydd mesurau hefyd i sicrhau bod modd cludo nwyddau’n fwy dibynadwy drwy wneud gwell defnydd o lwybrau eraill fel yr A465.
- Parhau i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys cymorth gan Trafnidiaeth Cymru i gyflymu’r gwaith o ddatblygu gorsafoedd Cardiff Parkway a Magwyr a’r Gwndy, gwella mynediad i orsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren, a gwella cysylltiadau bysiau rhwng Casnewydd a Chaerdydd.
Bwriad y llywodraeth Lafur flaenorol cyn 2019 oedd adeiladu traffordd newydd 14 milltir ar Wastadeddau Gwent, i’r de o Gasnewydd, ac roedd dros £100m eisoes wedi’i wario ar y prosiect.
Ond fe wnaeth y Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, ddileu’r cynllun ym mis Mehefin 2019.
Roedd Mr Drakeford o’r farn y byddai’r ffordd yn achosi difrod na fyddai modd ei ddadwneud i fywyd gwyllt a chynefinoedd gwarchodedig gwarchodfa natur Gwastadeddau Gwent.
'Hynod bryderus'
