Pryderon am barcio wedi i gynllun i ehangu eisteddle’r Cae Ras gael ei gymeradwyo
Mae pryderon wedi’u codi ynglŷn â diogelwch trigolion lleol ar ddiwrnodau gemau Clwb Pêl-droed Wrecsam ar ôl i’r cyngor gymeradwyo cais i ehangu un o eisteddleoedd y Cae Ras.
Ddydd Llun, fe wnaeth Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gymeradwyo cynllun i ehangu’r Kop. Bydd hyn yn cynyddu capasiti’r eisteddle o 5,500 i 7,750 o gefnogwyr.
Yn ôl ymchwil gan y clwb, gallai’r capasiti ychwanegol arwain at o leiaf 1,700 o deithiau car ychwanegol i’r ddinas ar ddiwrnodau gemau.
Mae cynlluniau teithio wedi cael eu cynnig er mwyn ceisio lleddfu’r pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd, gan gynnwys defnyddio meysydd parcio yng nghanol y ddinas a theithio ar drenau a bysiau.
Roedd y cynigion gwreiddiol hefyd yn cynnwys cynllun parcio a theithio gwell, defnyddio meysydd parcio preifat yng nghanol y ddinas a chyfyngiadau parcio i drigolion ar ddiwrnodau gemau.
Yn ôl y dogfennau, heb fesurau o’r fath, gallai cefnogwyr ddefnyddio hyd at 97% o’r mannau parcio mewn ardaloedd preswyl ger y cae.
‘Siomedig’
Ond mewn addasiad hwyr i’r adroddiad, fe wnaeth swyddogion priffyrdd y cyngor godi amheuon ynglŷn â pha mor ymarferol neu effeithiol fyddai cynllun parcio i drigolion.
Dywedodd y swyddogion na fyddai cynllun parcio i drigolion yn cynyddu capasiti trafnidiaeth nac yn lleihau’r galw am deithio i’r stadiwm mewn ceir preifat.
Roedd pryder hefyd y gallai’r cynllun symud problemau parcio i ardaloedd eraill.
Ond fe wnaeth y Cynghorydd Phil Wynn feirniadu safbwynt y swyddogion.
“Pan ddarllenais yr adroddiad yr wythnos diwethaf, roedd yn nodi’r ateb yn glir – parcio i drigolion yn y strydoedd ochr ger y stadiwm.
“Rwy’n siomedig bod swyddogion wedi penderfynu dileu pob cyfeiriad at yr ateb hwnnw.”
Dywedodd Mr Wynn fod awdurdodau lleol eraill yn y wlad yn gweithredu cynlluniau parcio i drigolion ar ddiwrnodau gemau, gan holi “pam na all Wrecsam?”
‘Cwbl annerbyniol’
Ychwanegodd y Cynghorydd Wynn ei fod wedi gweld tystiolaeth fideo o bobl mewn cadeiriau olwyn yn cael eu gorfodi i ganol y ffordd.
“Mae achosion lle mae pobl mewn cadeiriau olwyn wedi cael eu taro. Mae hynny’n gwbl annerbyniol,” meddai.
Dywedodd fod arolwg a gynhaliwyd dair blynedd yn ôl wedi canfod bod trigolion o tua 40% o’r cartrefi yn ei ward a ymatebodd wedi dweud eu bod wedi profi gwrthdaro â chefnogwr.
“Mae pobl yn mynd i’r tŷ bach yng ngerddi pobl, mae pobl yn taflu eu sbwriel allan o’u ceir,” meddai.
“Felly os nad yw’r cefnogwyr hynny ar y strydoedd mwyach oherwydd bod cynllun parcio i drigolion, byddwch chi fel pwyllgor yn rhoi sicrwydd i’r trigolion rwy’n eu cynrychioli, a thrigolion mewn wardiau eraill hefyd.”
Fe wnaeth aelodau’r Pwyllgor Cynllunio gymeradwyo’r cynlluniau i gynyddu capasiti’r Kop, ynghyd ag ymrwymiad i ymchwilio i ba mor ymarferol fyddai cyflwyno cynllun parcio i drigolion ar ddiwrnodau gemau ger y Cae Ras.
