Holl docynnau Gŵyl Glastonbury 2027 wedi eu gwerthu mewn llai nag awr
Cafodd holl docynnau Gŵyl Glastonbury 2027 eu gwerthu i gyd mewn llai na 45 munud fore dydd Sul.
Ar ôl saib yn 2026, bydd y digwyddiad yn dychwelyd y flwyddyn nesaf rhwng 23 a 27 Mehefin ar safle Worthy Farm yn Pilton, Gwlad yr Haf.
Aeth y tocynnau ar werth i'r cyhoedd am 09:00 fore Sul, ond roedd pob un wedi ei werthu erbyn 09.45.
Mewn neges ar Instagram, dywedodd tudalen swyddogol yr ŵyl: "Mae tocynnau ar gyfer Glastonbury 2027 bellach wedi eu gwerthu.
"Diolch i bawb a brynodd docyn, ac ymddiheuriadau i'r rhai ohonoch na wnaethant lwyddo i gael un ar fore lle'r oedd y galw yn llawer mwy na'r cyflenwad.
"Bydd ailwerthiant o unrhyw docynnau sydd wedi'u canslo neu eu dychwelyd yn y gwanwyn yn 2027."
Nid yw'r prif artistiaid ar gyfer gŵyl 2027 wedi'u cyhoeddi eto.
Er gwaethaf dyfalu mawr, mae Oasis a'r trefnydd Emily Eavis wedi cadarnhau nad yw'r band wedi'u trefnu i berfformio.
Ond fe wnaeth Eavis gadarnhau ym mis Awst bod yr holl brif artistiaid wedi'u trefnu yn barod.
"Rydyn ni'n gyffrous iawn am y peth. Mae popeth yn dod at ei gilydd yn dda iawn," meddai ar raglen PM BBC Radio 4.
Yr artistiaid The 1975, Neil Young and the Chrome Hearts, ac Olivia Rodrigo oedd y prif artistiaid yng ngŵyl 2025.