Tro pedol gan Andy Burnham ar gynnal rhai achosion llys heb reithgorau
Mae Andy Burnham wedi rhoi’r gorau i gynllun dadleuol i gynnal rhai achosion llys heb reithgorau yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r penderfyniad yn dro pedol ar gynigion gafodd eu cyflwyno dan arweinyddiaeth ei ragflaenydd, Syr Keir Starmer, mewn ymgais i leihau’r nifer fawr o achosion sy’n aros i gael eu clywed yn y llysoedd.
Nawr, dim ond rhai achosion o dwyll a throseddau ariannol yn unig fydd yn gallu cael eu clywed o flaen barnwr heb reithgor dan y cynlluniau newydd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Alex Norris ei fod wedi penderfynu “newid cyfeiriad” ar ôl clywed “cryfder y teimlad” ynglŷn â’r cynigion.
Roedd y cynllun wedi wynebu gwrthwynebiad gan rai ASau a gweithwyr cyfreithiol oedd yn pryderu am degwch, cyfyngu ar hawliau diffynyddion, ac a fyddai’r newidiadau yn gwneud digon i leihau nifer yr achosion yn y pen draw.
Beth oedd y cynllun?
Roedd y cyn Ysgrifennydd Cyfiawnder David Lammy wedi cynnig cadw treialon rheithgor ar gyfer troseddau mwyaf difrifol fel llofruddiaeth a threisio, ac ar gyfer troseddau eraill lle’r oedd dedfryd o fwy na thair blynedd yn debygol.
Byddai achosion eraill wedi cael eu clywed gan un barnwr yn Llys y Goron heb reithgor.
Mae’r newidiadau’n berthnasol i Gymru yn ogystal â Lloegr.
Roedd 80,829 o achosion yn dal i aros i gael eu datrys yn Llysoedd y Goron yng Nghymru a Lloegr ddiwedd mis Mehefin, gyda’r ôl-groniad bron wedi dyblu ers 2020.
Dywedodd Mr Norris: “Etifeddodd y Llywodraeth hon lysoedd troseddol oedd ar fin dymchwel, gyda dioddefwyr yn aros am flynyddoedd am eu diwrnod yn y llys.
“Rwy’n parhau’n ymrwymedig i leihau nifer yr achosion sy’n aros i gael eu clywed, a sicrhau cyfiawnder cyflymach i’r rhai sydd ei angen mor daer.”
“Ond rwyf wedi clywed cryfder y teimlad ynglŷn â’r cynigion i gynyddu nifer y treialon gerbron barnwr yn unig yn Llys y Goron, ac wedi gwneud y penderfyniad i newid cyfeiriad.”
Newidiadau eraill yn parhau
Er bod y cynllun ehangach ar dreialon heb reithgor wedi’i ollwng, bydd newidiadau eraill yn parhau.
Bydd pobl sydd wedi’u cyhuddo o rai troseddau llai difrifol yn colli’r hawl i ddewis cael treial gerbron rheithgor yn Llys y Goron yn hytrach na chael eu hachos wedi’i glywed mewn llys ynadon.
Y llysoedd fydd â’r gair olaf ynglŷn â ble y dylai’r achosion hynny gael eu clywed.
Croesawodd yr AS Llafur Karl Turner, gafodd ei atal o chwip y blaid ar ôl iddo feirniadu’r cynllun, y penderfyniad.
Dywedodd ei fod yn “croesawu’n gryf” y ffaith bod y cynlluniau wedi’u rhoi o’r neilltu, gan ychwanegu bod pobl sy’n wynebu cyhuddiadau troseddol difrifol yn haeddu’r “amddiffyniad sylfaenol” o achos llys o flaen rheithgor.
Dywedodd hefyd ei fod yn ddiolchgar i’r Prif Weinidog Andy Burnham am ei gefnogaeth yn ystod ei ymgyrch yn erbyn y cynigion.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyfiawnder yr wrthblaid Nick Timothy fod y penderfyniad yn “fuddugoliaeth fawr” i’r rhai oedd wedi ymgyrchu dros dreialon rheithgor.
Ond fe gyhuddodd y Llywodraeth o gyfyngu ar reithgorau “drwy’r drws cefn” drwy roi mwy o achosion gerbron llysoedd ynadon.
Bydd y newidiadau’n cael eu gwneud i’r Bil Llysoedd a Thribiwnlysoedd, sydd i ddychwelyd i Senedd y DU yn ddiweddarach y mis hwn.
Llun: PA