Diwrnod olaf tyngedfennol i Elfyn Evans yn y ras am ei deitl byd cyntaf
Mae Elfyn Evans yn mynd i ddiwrnod olaf Pencampwriaeth Rali’r Byd yn y pumed safle yn Sardinia, wrth iddo geisio sicrhau ei deitl byd cyntaf.
Oliver Solberg oedd yn arwain y rali ar ddiwedd cymalau dydd Sadwrn, 36.6 eiliad o flaen Sébastien Ogier.
Mae Adrien Fourmaux yn drydydd, Sami Pajari yn bedwerydd ac Evans yn bumed - ddau funud a 38.4 eiliad y tu ôl i’r blaen.
Dechreuodd Evans y rali gyda mantais o 21 pwynt yn y bencampwriaeth.
Pe bai’r safleoedd presennol yn aros yr un fath tan ddiwedd y rali, byddai’r Cymro’n ennill 10 pwynt am ddod yn bumed, tra byddai 25 pwynt yn mynd i enillydd y rali.
Byddai hynny’n golygu bod mantais Evans ar frig y bencampwriaeth yn gostwng i chwe phwynt.
Mae hyd at 10 pwynt bonws ychwanegol ar gael ddydd Sul, pump am berfformiad y gyrrwr ar draws cymalau’r diwrnod olaf a phump arall ar y cymal cyffro olaf.
Beth sydd angen i Evans ei wneud?
Os yw’r safleoedd presennol yn aros yr un fath:
- Bydd angen o leiaf bum pwynt ar Evans, os yw Solberg yn ennill pob un o’r 10 pwynt bonws,
- Os bydd naw pwynt yn mynd i’r gyrrwr sy’n arwain, bydd angen pedwar ar Evans, wyth pwynt yn golygu bod angen tri ar y Cymro ayyb.
- Os mai pump neu lai o bwyntiau bonws fydd ei wrthwynebydd yn eu hennill, ni fyddai angen unrhyw bwyntiau bonws ar Evans.
Byddai Evans hefyd yn sicrhau’r teitl pe bai’n llwyddo i godi i’r trydydd safle yn y rali, waeth beth fyddai’n digwydd gyda’r pwyntiau bonws ddydd Sul.
Daeth tro mawr yn y frwydr brynhawn Sadwrn pan gafodd Thierry Neuville ei orfodi i ymddeol.
Roedd y gyrrwr Hyundai yn yr ail safle, 2.7 eiliad yn unig oddi ar y blaen, cyn iddo fynd oddi ar y ffordd yng nghymal 11.
Fe wnaeth hynny godi Pajari ac Evans un safle yr un.
Mae pedwar cymal yn weddill ddydd Sul, gyda’r cymal cyffro olaf yn dod â’r rali a thymor Pencampwriaeth Rali’r Byd i ben.