Trychfil sy'n cario clefydau yn 'byw yn hirach' ym Mhrydain o achos tywydd poeth

Trogen a thraeth

Mae arwyddion fod math o drychfil sy’n gallu cario clefyd peryglus bellach yn byw yn hirach ym Mhrydain oherwydd cyfnodau estynedig o wres, yn ôl arbenigwr.

Mae trogod, neu ticks, o’r rhywogaeth hyalomma yn gallu trosglwyddo clefydau difrifol, ond yn y gorffennol doedd y tywydd ddim yn ddigon cynnes iddyn nhw dyfu’n oedolion ym Mhrydain.

Er fod achosion dal yn brin, mae swyddogion iechyd wedi dechrau gweld arwyddion o drogod yn llwyddo i aeddfedu, yn ôl Dr Jolyon Medlock, pennaeth pryfeteg feddygol Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA).

Trogod hyalomma yw prif drosglwyddwyr clefyd Crimea-Congo (CCHF), math o salwch feirysol sy’n gallu lladd.

Mae’r trychfilod yn aml yn cyrraedd Prydain drwy lynu at adar sy’n mudo o Affrica a Môr y Canoldir tra’u bod nhw’n dal i fod ar ffurf nymff, tua hanner ffordd drwy eu cylch bywyd.

Wedyn mae’r trogod yn bwrw’u croen er mwyn aeddfedu a chyrraedd y cam nesaf - ond dydy hynny ddim wedi bod yn digwydd ar yr ynysoedd hyn fel rheol.

Troi'n oedolion

“Fe fydden nhw fel arfer yn dod mewn ar gefn adar mudol fel nymff cyn disgyn i ffwrdd - ond fydden nhw ddim yn gallu bwrw croen. Dydy hi ddim yn ddigon cynnes,” meddai Dr Medlock.

“Beth ‘dyn ni’n ei weld nawr mewn blynyddoedd gyda thonnau gwres yw eu bod nhw’n gallu bwrw’u crwyn a throi’n oedolion, ac fe allwn ni wedyn ddod o hyd i dystiolaeth o oedolion drwy’n prosiectau monitro trogod.

Image
Dr Jolyon Medlock
Mae Dr Medlock yn arbenigwr ar bryfed

“Mae hyn wedi digwydd, mwy thebyg, llai na phum gwaith yn y tua 10 mlynedd ddiwetha’, ond mae’n rhywbeth ‘dyn ni a’n cydweithwyr ar draws gogledd Ewrop yn dechrau ei weld ychydig yn amlach.

“Dydy hyn ddim yn golygu bydd y drogen yn goroesi na’i bod o angenrheidrwydd yn dod gyda risg o haint.”

Pathogenau

Dywedodd Dr Medlock fod trogod hyalomma wedi cael eu cofnodi ar adar mudol yn y DU dros y 50 mlynedd diwethaf. Nododd eu bod nhw’n cario clefydau fel CCHF yn eu cynefin a bod y salwch wedi dechrau lledu i Sbaen yn ddiweddar.

“Felly dyma’r mathau o bathogenau sy’n cael eu cario gan drogod ac sy’n sensitif i’r hinsawdd y gallwn ni eu gweld yma,” meddai.

Ychwanegodd y gallai tymhorau trogod mwy cyffredin ym Mhrydain ddechrau newid yn sgil gaeafau mwynach a hafau poethach, gyda’r creaduriaid yn fwy tebygol o oroesi’r gaeaf.

Lluniau gan: PA/Gareth Fuller a UKHSA/YouTube

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.