Neco Williams: Cyfle 'i wneud pethau'n iawn' yn erbyn Denmarc nos Sul
Mae amddiffynwr Cymru Neco Williams yn "eithaf balch" bod Cymru yn wynebu Denmarc eto nos Sul, gan fod ganddyn nhw gyfle i "wneud pethau'n iawn" ar ôl y golled yn Copenhagen.
Fe fydd Cymru yn croesawu Denmarc i Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos yn unig ar ôl colli 2-0 yn eu herbyn yng Ngrŵp A yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.
Ond bydd tîm Craig Bellamy yn wynebu eu gêm yn llawn hyder wedi eu buddugoliaeth gyntaf yn y grŵp ar ôl curo Norwy 2-1 nos Iau.
Dan James sgoriodd gôl gyntaf Cymru yn yr ymgyrch cyn i Neco Williams sgorio o gic rydd yn gynnar yn yr ail hanner wedi i Norwy gael cerdyn coch.
Mae Williams yn credu y gall y fuddugoliaeth roi hwb i hyder Cymru cyn wynebu Denmarc.
“Mae'n gallu rhoi lot o hyder i ni. Dwi'n eithaf balch ein bod ni'n chwarae yn erbyn Denmarc eto,” meddai wrth Sgorio.
“Fel ddywedais i, y diwrnod o'r blaen [yn erbyn Denmarc], doedd e ddim yn berfformiad da gennym ni.
“Fe wnaethon ni ddangos gormod o barch iddyn nhw o lawer, a'n bai ni oedd hynny.
“Wrth gwrs, y tîm gorau enillodd ar y diwrnod, ond nawr mae gennym ni gyfle i wneud pethau'n iawn a dangos iddyn nhw pwy ydyn ni a pha mor dda gallwn ni fod fel cenedl.”
Roedd Denmarc wedi rheoli rhannau helaeth o'r gêm yn Copenhagen, gyda gôl Gustav Isaksen a gôl i'w rwyd ei hun gan Ben Davies yn sicrhau buddugoliaeth 2-0 i'r tîm cartref.
Roedd y golled honno wedi gadael Cymru heb bwynt na gôl wedi eu dwy gêm gyntaf yng Nghynghrair A, ar ôl colli 1-0 yn erbyn Portiwgal yn eu gêm agoriadol hefyd.
Dywedodd Dan James, a sgoriodd gôl gyfartal Cymru yn erbyn Norwy nos Iau, fod y perfformiad yn llawer agosach at yr hyn mae'r garfan yn disgwyl ganddyn nhw eu hunain.
“Mae'n fuddugoliaeth enfawr, ac mae'n ein rhoi ni ar ben ffordd yn y grŵp yma,” meddai.
“Roedd y garfan yn siomedig iawn ar ôl y ddwy gêm gyntaf, yn enwedig yn erbyn Denmarc. Doedden ni ddim cweit yn ni ein hunain.
“Ond yn erbyn Norwy, roeddem yn gallu dangos beth rydym yn gallu ei wneud.
"Fe wnaethon ni amddiffyn yn dda o'r blaen, byddai lot o bobl wedi ein diystyru ni ar ôl y gôl gyntaf, ond roedd hi'n wych i ni gael y gôl cyn hanner amser ac fe roddodd hynny hwb i ni.
“Mae Norwy yn dîm da iawn, mae ganddyn nhw chwaraewyr anhygoel. Maen nhw'n mynd i reoli gemau, ac rydyn ni wastad yn mynd i orfod dioddef.
“Ond fe gawson ni ein gwobr. Mae'n rhaid i ni barhau i wneud hynny, ac mae gyda ni gêm anodd iawn ddydd Sul.”
Bydd Cymru yn wynebu Denmarc yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer am 19:15 nos Sul.