Dynes o Wynedd yn enwi ei siop newydd ar ôl y baban a gollodd tra'n feichiog

Dynes o Wynedd yn enwi ei siop newydd ar ôl y baban a gollodd tra'n feichiog

Mae dynes o Wynedd a gollodd ei baban yn ystod ei beichiogrwydd ar fin agor siop newydd sydd wedi ei henwi ar ôl ei baban.

Bydd siop Sglein Seren yn agor yng Nghei Llechi yng Nghaernarfon gyda digwyddiad arbennig nos Iau.

Mewn cyfnod hynod o heriol, fe ddioddefodd perchennog y siop, Ceri Ann o Rosgadfan, anaf difrifol hefyd yn fuan wedi ei cholled.

Ond mae'r amser anodd hwnnw wedi arwain at gyfle i gynnig cymorth i eraill sydd wedi mynd drwy'r un profiad a hi.

Ym mis Mai’r llynedd, ar ôl pedwar mis o feichiogrwydd, fe aeth Ceri am sgan i ddatgelu rhyw y baban gyda’i phartner, Rhodri.

Image
Ceri
Ceri Ann, perchennog Sglein Seren

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Ceri, sydd yn gyn-athrawes ysgol gynradd: “Llynadd, wnaethon ni ffeindio allan bod ni'n disgwyl babi. 

“Ac ar ôl misoedd o baratoi a cyffro gan bawb - i ffeindio allan wedyn yn anffodus, yn ystod sgan datgelu rhyw, bod na ddim curiad calon bellach.

“Fel allwch chi ddychmygu, amser anodd iawn ddilynodd y newyddion yna.”

Wrth i Ceri a Rhodri ddygymod â’r newyddion, fe ddioddefodd Ceri anaf difrifol ychydig dros wythnos yn ddiweddarach.

“Ar ôl geni Seren, oedd rhaid i mi aros yna dros nos a dod adra ar y dydd Sadwrn. 

“Ond wythnos yn union wedyn, fore dydd Sadwrn, o'n i ar fy ffordd yn ôl i ysbyty mewn ambiwlans di torri fy nghefn. 

"O’n i ‘di disgyn trwy’r floorboards yn y tŷ.”

Fe ddisgynnodd Ceri drwy lawr cyntaf ei chartref yn Rhosgadfan, gan ddisgyn drwy'r nenfwd a glanio ar ei chefn ar lawr â theiliau.

Cafodd ei rhuthro yn ôl i’r ysbyty gyda meddygon yn poeni am yr ergyd i’w phen. Ar ôl cael ei hasesu, cafodd Ceri wybod ei bod wedi torri fertebra yng nghanol ei chefn. 

Yn ffodus, ni wnaeth hynny achosi iddi gael ei pharlysu, ond roedd yn rhaid iddi aros yn Ysbyty Gwynedd am rai wythnosau, dan arweiniad meddygon o Ysbyty Stoke.

‘Gwaethygu pethau’

Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod heriol hwnnw dros flwyddyn yn ddiweddarach, dywedodd Ceri: “Sbio’n ôl, dwi’m yn teimlo mai bywyd fi oedd o. Achos dwi’n sbio nôl a meddwl, ‘oh bechod’. 

“Odd y stafell o’n i yn ar ôl torri fy nghefn yr un math o stafell ag o ni yn yr wythnos yn gynt yn geni Seren. 

“A odd huna’n dod a lot o bethau yn ôl, ag odd o’n reit traumatic. Nath hynny just gwaethygu pethau.”

Mae un o bob pedwar beichiogrwydd yn diweddu mewn colli babi neu erthyliad naturiol.

Image
Sglein Seren
Rhodri a Ceri ym Marchnad Nadolig Bethel, digwyddiad cyntaf Sglein Seren

Ar ôl dychwelyd adref o’r ysbyty, roedd Ceri yn parhau i alaru am golli ei babi. Yn ystod y cyfnod hwnnw daeth egin y syniad am Sglein Seren.

“Oedd o'n amser reit anodd ar ôl colli Seren, ag ella sa rhywun fel arfar yn mynd ati i fynd am dro, neu gadw'n brysur, mynd i lefydd gwahanol i drio codi calon ac yn y blaen, ond doedd genna i ddim yr opsiwn yna. 

“O'n i adra, o'n i di torri fy nghefn, o'n i'n llonydd, a oedd rhaid meddwl ella am bethau ychydig bach yn wahanol de. A wedyn dyma fi'n dechrau creu dillad wedi’u personoli efo teclyn ar y ffôn, a wnaeth y belan ddechrau rolio mewn ffordd. 

“A dyma fi'n dechrau gwerthu ar-lein, a dyma pobl yn dechrau estyn allan, cynnig i fynd i lefydd i gynnal stondin.”

‘Naturiol’

Ar ôl derbyn ymateb cadarnhaol wrth arddangos ei chynnyrch mewn sawl digwyddiad, daeth y cynnig ym mis Gorffennaf iddi ddod â’i gwaith i siop yn y dref. 

“Pan welais i y lle yng Nghei Llechi, doedd peidio mynd amdani ddim yn opsiwn. Fel bob dim, mae o wedi digwydd yn naturiol,” ychwanegodd.

Wrth rannu ei stori ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Ceri’n dweud ei bod wedi derbyn llawer o negeseuon gan rieni sydd wedi colli baban yn ystod beichiogrwydd. 

Image
Bydd Ceri yn cynnal gweithgareddau creadigol gyda phlant ac oedolion yn y siop yn ogystal
Bydd Ceri yn cynnal gweithgareddau creadigol gyda phlant ac oedolion yn y siop yn ogystal

Dyna sydd wedi ei hysbrydoli i ddechrau grŵp ar gyfer mamau sydd wedi bod drwy’r un profiad i ddod at ei gilydd i siarad, gyda’r sesiynau yn cael eu cynnal yn y siop.

“Dwi'n meddwl na profi'r amser yna sydd wedi rhoi y tân yn fy mol i wneud yn siŵr bod yna newidiadau'n digwydd a bod y gefnogaeth yna i bwy bynnag sydd angen o.

“Dwi ddim mewn unrhyw ffordd yn honni bo fi’n arbenigwr, neu bod fi’n gwbod sut i ymdopi - dwi dal ar y siwrna fy hun. 

"Ond be dwi yn teimlo sy’n helpu, a dwi’n gobeithio neith helpu eraill hefyd, ydi siarad a bod yng nghwmni pobol sy’n barod i wrando,” meddai.

“Yn naturiol mae pobol wedi bod yn estyn allan ag yn ymddireied ynddo fi, ac yn trafod profiadau nhw."

Ychwanegodd: "Dwi yn nabod rai sydd yn awyddus i ddod yma a mynychu rai o’r sesiynau, just i gael sgwrs ag ella cymharu profiadau a gofyn sut nes di ddelio efo hyn, achos mae o'n anodd a mae o efo chdi bob dydd. 

"Gobeitho bod o’n rywle diogel, croesawgar a chynnes i ni gal ddod at ein gilydd.”

Os ydych wedi cael eich effeithio gan bynciau sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.