Cyn-dditectif gyda Heddlu'r Gogledd yn pledio'n euog i sbecian ar ferched yn eu harddegau
Mae cyn-dditectif gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi pledio'n euog i gyhuddiad o sbecian, neu voyeuriaeth, ar ferched yn eu harddegau yn ardal Bae Colwyn ym mis Mehefin eleni.
Yn Llys y Goron Caer ddydd Mercher, plediodd Lee Harshey-Jones, 45 oed, yn euog hefyd i gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ar ôl iddo ail-osod gosodiadau ffatri ei ffôn symudol i guddio tystiolaeth a chamddefnydd o rymoedd yr heddlu drwy edrych ar gofnod o gyfrifiadur yr heddlu.
Cafodd adroddiad cyn dedfrydu ei orchymyn ac fe fydd y ditectif gwnstabl yn cael ei ddedfrydu ar 19 Tachwedd.
Dywedodd y barnwr, y Cofiadur Mark Ford KC, wrth yr heddwas yn y doc: "Ni ddylai'r ffaith fy mod wedi gohirio ar gyfer adroddiad cyn dedfrydu roi awgrym i chi o'r ddedfryd debygol fydd yn cael ei gosod yn achos yr honiadau difrifol hyn."
Fe fydd enw Harshey-Jones yn cael ei ychwanegu i'r gorfrestr troseddwyr rhyw.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y swyddog wedi ei arestio yn dilyn honiad ar 11 Mehefin yn ardal Bae Colwyn.
Mae wedi ei wahardd o'i swydd ers hynny.
Roedd Harshey-Jones yn brif ymchwilydd yn achos llofruddiaeth y bachgen dyflwydd oed Ethan Ives-Griffiths gan ei nain a'i daid Michael and Kerry Ives yn Sir y Fflint.
Mae hefyd wedi rhoi tystiolaeth mewn achosion eraill o lofruddiaeth ar ran yr heddlu.
Nid oedd Heddlu Gogledd Cymru am wneud sylw ar y mater am resymau cyfreithiol.
Llun: ITV Cymru