Hyd at £150 o ddirwy am adael i injan cerbyd redeg ar ôl parcio
Gallai gyrwyr sy'n gadael i'w hinjan redeg ar ôl parcio gael dirwy rhwng £75 a £150 o heddiw ymlaen, wrth i Lywodraeth Cymru gynyddu ymdrechion i fynd i'r afael â llygredd aer.
Bydd y ddirwy yn fwy na threblu gyda'r nod o ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Yn ôl y llywodraeth, mae'n adlewyrchu'r niwed difrifol y mae allyriadau cerbydau yn eu hachosi i ansawdd aer.
Yn ôl rheol 123 o Reolau'r Ffordd Fawr ni ddylai gyrwyr adael i injan cerbyd redeg ar ôl parcio, ar ôl gadael y cerbyd neu wrth eistedd ynddo. Mae'r rheol hefyd yn dweud na ddylai gyrwyr adael i injan cerbyd redeg yn ddiangen pan nad yw'r cerbyd hwnnw'n symud ar ffyrdd cyhoeddus.
Er hynny, prin yw'r gyrwyr sy'n ymwybodol o'r drosedd hon.
Gall gadael i injan redeg ychwanegu at lygredd aer a sŵn sy'n cyfrannu at nifer o broblemau iechyd, gan gynnwys clefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint.
'Camau breision'
Eglurodd Llyr Gruffydd AS, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd ei fod eisiau cynyddu'r dirwyon er mwyn "cymryd camau breision i lanhau ein haer a lleihau llygredd, diogelu iechyd a gwella'r lleoedd lle rydyn ni'n byw,"
Ychwanegodd: "Mae injans yn pwmpio llygredd i'r aer y mae pobl yn ei anadlu, gan gynnwys plant y tu allan i ysgolion a phobl agored i niwed y tu allan i leoliadau gofal iechyd.
"Mae diffodd mor syml, ac rydyn ni eisiau annog pawb i fynd i'r arfer â gwneud hynny - p'un a ydych chi y tu allan i ysgol, meddygfa, y siopau, gorsaf drenau neu unrhyw le arall."
Fe ddywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver: "Mae llygredd aer yn broblem iechyd cyhoeddus ddifrifol, sy'n cyfrannu at amrediad o gyflyrau gan gynnwys clefyd y galon a chlefyd yr ysgyfaint.
"Efallai y bydd gadael i injan redeg i'w weld yn rhywbeth bach, dibwys, ond mae'r effeithiau'n cronni.
"Bob tro mae injan yn cael ei ddiffodd yn hytrach na'i adael i redeg, rydyn ni'n lleihau faint o lygredd niweidiol rydyn ni i gyd yn ei anadlu, yn enwedig o amgylch ysgolion, ysbytai a mannau eraill lle mae pobl agored i niwed yn debygol o fod.
"Byddwn yn annog pawb i ddiffodd eu hinjan bob tro ar ôl parcio, er mwyn gwella iechyd ac osgoi cosb," meddai.
