Plismones yn wynebu achos camymddwyn ar ôl ei chanfod yn ddieuog o ymosodiad rhyw yng Nghaerdydd

Llys y Goron Bryste
Llys y Goron BrysteLlys y Goron Bryste
Bydd plismones 33 oed a gafodd ei dyfarnu'n ddieuog o ddau gyhuddiad o ymosodiad rhyw, tra roedd hi allan yng Nghaerdydd, yn wynebu achos camymddwyn.  
 
Yn Llys y Goron Bryste, ddydd Llun, daeth y rheithgor i'r casgliad nad oedd Fiona Anderson o Gaerwysg yn euog o ymosod ar ddynes yn y brifddinas yn 2018.  
 

Mae'r swyddog, sy'n cael ei chyflogi gan Heddlu Dyfnaint a Gwlad yr Haf wedi ei gwahardd o'i gwaith ers iddi gael ei harestio yn 2023.  

Mewn datganiad, dywedodd y llu: “Rydym yn cydnabod dyfarniad y llys ac yn diolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â'r ymchwiliad a'r broses gyfreithiol. 

“Mae'r achos troseddol bellach ar ben. Er hynny, mae'r swyddog yn dal i fod yn destun proses camymddwyn, ond dan reolau'r heddlu. 

“Byddai'n amhriodol felly i wneud sylw pellach ar union amgylchiadau'r achos, tra bod y broses honno'n parhau.”

Roedd Fiona Anderson wedi ei chyhuddo o orfodi ei hun ar ddynes ar ôl mynd i'w gwely. 

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd wrth y rheithgor ei bod hi'n "feddw iawn" ac na allai gofio llawer o'r hyn ddigwyddodd y noson honno. 

Gwadodd iddi gymryd rhan mewn gweithred rywiol heb ganiatâd.   

Nododd y ddynes wrth y rheithgor fod Fiona Anderson wedi dweud wrthi: “Rwy'n adnabod y gyfraith ac rydw i angen i ti ddweud 'ie'.”

Gwaododd Ms Anderson iddi ddweud hynny, a mynnodd wrth y llys na fyddai fyth wedi dweud y fath beth.  

Cafodd ei dyfarnu'n ddieuog ddydd Llun wedi gwrandawiad a barodd am wythnos yn Llys y Goron Bryste.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.