Yr ymgyrchydd gwrth-fudwyr Danny Tommo wedi ei gadw yn y ddalfa

Danny Tommo, neu Daniel Thomas

Mae’r ymgyrchydd gwrth-fudwyr Daniel Thomas wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen llys. 

Mae’r dyn 37 oed sy’n cael ei adnabod gan ei gefnogwyr fel Danny Tommo yn wynebu achos llys y flwyddyn nesaf ar gyhuddiad o ddifrod troseddol i gwch yn y Sianel, neu Môr Udd.

Fe wnaeth ymddangos drwy gyswllt fideo o’r carchar mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Portsmouth ddydd Mawrth. 

Roedd yn gwisgo crys-t llwyd ac yn dal copi o’r Beibl. Roedd y llys wedi cadw ei gyfeiriad yn gyfrinachol mewn gwrandawiad blaenorol.

Roedd eisoes wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o ddifrod troseddol ar ôl iddo yn honedig dorri cwch ag offeryn miniog yn y Sianel ar 22 Medi. Roedd gweithiwr ymateb brys ar y cwch ar y pryd.

Mae hefyd wedi gwadu methu â rhoi cod PIN ei ffôn i’r heddlu, o dan Adran 53 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.

Yn y gwrandawiad ddydd Mawrth, fe gafodd 1 Mawrth 2027 ei bennu fel dyddiad dros dro ar gyfer yr achos llys.

Llun: Llys y Goron Portsmouth a darlun gan Elizabeth Cook o Daniel Thomas o wrandawiad blaenorol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.