Llafur yn ‘ddi-gyfeiriad’ yng Nghymru meddai cyn weinidog
Mae un o gyn-weinidogion Llafur yn y Senedd wedi dweud bod y blaid yn “ddi-gyfeiriad” yng Nghymru a bod y blaid yn San Steffan wedi dangos “dirmyg” tuag at ddatganoli.
Dywedodd Mick Antoniw, a oedd yng Nghabinet Llywodraeth Cymru rhwng 2021 a 2024, fod cyfle o dan y Prif Weinidog newydd, Andy Burnham, i “ailgychwyn” (reboot) y blaid.
Mae’r Blaid Lafur yn cynnal ei chynhadledd yn Lerpwl rhwng dydd Sul a dydd Mercher.
Bydd Mick Antoniw, cyn-AS Pontypridd, yn ymddangos gyda’r cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford yn y gynhadledd ddydd Llun i drafod datganoli a diwygio cyfansoddiadol.
“Ar hyn o bryd, mae diffyg cyfeiriad ideolegol a strategol clir gan Lafur Cymru yn y Senedd,” meddai.
“Gallai hynny ddod, ond nid yw yno eto.”
Ychwanegodd: “Yn hanesyddol, mae perthynas Llafur Cymru â datganoli wedi pendilio rhwng dau safbwynt.
“O dan arweinyddiaeth Starmer, daeth y blaid yn fwyfwy awdurdodaidd a chanolog i Lundain, gyda gormod o rym dros bolisi wedi’i ganoli.
“Ar adegau, roedd hyn yn cyd-fynd â dirmyg tuag at ddatganoli, a hyd yn oed elyniaeth ato.
“Daeth diystyru polisïau hirsefydlog Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru yn arfer wedi’i wreiddio’n ddwfn.”
Dywedodd fod y blaid wedi troi at chwifio baneri Prydeinig fel dewis amgen i Reform a’r Ceidwadwyr.
‘Di-gyfeiriad’
“Ar hyn o bryd, does gan Lafur Cymru yn Senedd Cymru ddim cyfeiriad ideolegol na strategol clir. Efallai y daw hynny, ond nid yw yno eto,” meddai.
“Ni all strategaeth o wrthwynebu er mwyn gwrthwynebu lwyddo yn y tymor hir i ennill cefnogaeth wleidyddol y llu o gyn-gefnogwyr Llafur a gefnodd ar y blaid ym mis Mai.
“Mae creu hunaniaeth a gweledigaeth radical i Lafur Cymru ar y chwith canol yn hanfodol.”
Dywedodd fod Plaid Cymru hefyd wedi gwneud “camgymeriad strategol clir” wrth gytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth newydd gyda’r SNP yn yr Alban a Sinn Féin yng Ngogledd Iwerddon.
“Mae Cymru’n wahanol,” meddai.
“Mae annibyniaeth yn apelio at lai na thraean o’r boblogaeth, ac yn wleidyddol, ychydig sy’n ei hystyried yn flaenoriaeth.”
