Plaid Cymru a Reform yn cynnig ‘yr un gwenwyn’ meddai Stephen Kinnock
Ni fydd Cymru yn derbyn y “gwenwyn” sy’n cael ei gynnig gan Reform a Phlaid Cymru, meddai Stephen Kinnock yn ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur.
Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru feirniadu Llywodraeth Plaid Cymru ym Mae Caerdydd am weithio tuag at annibyniaeth.
Fe wnaeth hefyd gyhuddo Reform o arddel “gwladgarwch plastig” yn y gynhadledd yn Lerpwl.
Mae Plaid Cymru wedi gwrthod yr awgrym, gan gyhuddo Stephen Kinnock o “daflu sarhad” at filoedd o gyn-bleidleiswyr Llafur a ddewisodd Blaid Cymru yn etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.
Dywedodd Mr Kinnock yn ystod ei araith: “Cyn etholiad 7 Mai, roedd Plaid Cymru yn dawel am ei hobsesiwn ag ymwahaniaeth, ond nawr mae ei gwir liwiau’n dod i’r amlwg.
“Maen nhw’n dweud ‘gadewch i ni adeiladu waliau, gadewch i ni edrych i mewn, a chadw grym Cymru o fewn ffiniau Cymru’.
“A dyw Reform ddim gwell. Y cyfan maen nhw eisiau ei wneud yw adeiladu waliau rhwng pobl a chymunedau.”
Ychwanegodd: “Mae Cymru yn genedl o ddreigiau. Nid parotiaid Putin ydyn ni.”
Dywedodd fod y ddwy blaid yn “cynnig yr un gwenwyn” drwy awgrymu “eich bod yn fwy diogel ar eich pen eich hun”.
“Nid pobl a enciliodd neu a drodd gymunedau yn erbyn ei gilydd wnaeth adeiladu Cymru. Pobl a aeth allan a newid y byd wnaeth adeiladu Cymru,” meddai.
‘Newid’
Mae Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi bod yn pwyso fwyfwy am annibyniaeth i Gymru dros y misoedd diwethaf.
Fe wnaeth annerch rali o blaid annibyniaeth yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, gan ddweud bod Cymru yn “barod i lunio ei dyfodol ei hun”.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, y dylai Mr Kinnock ystyried pam roedd pobl wedi dewis ei phlaid hi.
“Pan mae Stephen Kinnock yn dweud bod Plaid Cymru a Reform yn cynnig yr un gwenwyn, mae’n sarhau’r miloedd lawer o gyn-bleidleiswyr Llafur a ddewisodd Blaid Cymru ym mis Mai,” meddai.
“Yn lle taflu sarhad, dylai Llafur ystyried pam roedd cymaint o bobl wedi dewis newid cadarnhaol ar ôl 27 mlynedd o lywodraeth Llafur Cymru.”
Dywedodd fod Plaid Cymru wedi bod mewn llywodraeth am ychydig o dan bum mis a’i bod yn “canolbwyntio ar gyflawni gweledigaeth gadarnhaol i Gymru”.
Fe wnaeth hi hefyd feirniadu arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates, a alwodd yn ei araith yn y gynhadledd am drosglwyddo mwy o rym o Fae Caerdydd i gymunedau lleol.
Dywedodd Ms Saville Roberts y byddai gan bobl hawl i ofyn pam roedd Llafur wedi “aros nes iddi golli grym cyn darganfod manteision datganoli grym”.
‘Canlyniadau’
Dywedodd Ken Skates yn ei araith fod cam cyntaf datganoli yng Nghymru yn ymwneud â throsglwyddo grym i Gymru.
Ond “rhaid i’r cam nesaf ymwneud â rhannu grym â’r bobl,” meddai.
“Mae hynny’n golygu ymddiried yn ein cynghorau, ein sefydliadau rhanbarthol a’n cymunedau lleol drwy roi cyfrifoldeb go iawn iddyn nhw.
“Wnaethon ni ddim creu datganoli dim ond er mwyn creu fersiwn Gymreig o San Steffan.
“Rhaid i’n Llywodraeth Cymru fod yn ddigon cryf i arwain ac ailddosbarthu, a does dim rhaid i gryfder olygu rheolaeth ganolog.
“Mae’r egwyddor yn syml. Grym o San Steffan i Gymru. Grym o Gaerdydd i’n cymunedau. Grym i ddwylo’r bobl eu hunain.
“Ni ddylai taith datganoli ddod i ben ym Mae Caerdydd. Dylai gyrraedd y bobl.
“Achos does gan bobl ddim diddordeb yn y broses gyfansoddiadol er ei mwyn ei hun. Y canlyniadau sy’n bwysig iddyn nhw.”
