Ken Skates: Cymru 'heb weld y diwethaf' o Lafur fel grym etholiadol

Ken Skates

Nid yw Llafur yn rym etholiadol sydd wedi darfod yng Nghymru, yn ôl arweinydd Llafur Cymru.

Roedd Ken Skates yn siarad cyn cynhadledd flynyddol Llafur yn Lerpwl. Fe gymerodd yr awenau fel arweinydd Llafur Cymru ym mis Mai, ar ôl i’r blaid golli grym yng Nghymru am y tro cyntaf ers 27 mlynedd.

Dywedodd mewn cyfweliad â’r Press Association ei fod yn bwriadu cefnogi gweledigaeth Andy Burnham o ddatganoli pŵer y tu hwnt i San Steffan.

Roedd Llafur Cymru wedi dweud yn ei maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru ei bod o blaid trosglwyddo grym dros faterion cyfiawnder ac Ystad y Goron i Fae Caerdydd.

Er i Mr Skates ddweud ei fod yn dal i fod yn agored i’r cynigion hyn, dywedodd ei fod am weld Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo rhai o’i phwerau presennol i ranbarthau ar draws Cymru.

Roedd hynny’n adleisio safbwynt y Prif Weinidog am symud grym i ffwrdd o lywodraeth ganolog.

Dywedodd Mr Skates fod ganddo hyder y gallai ei blaid ddychwelyd i rym yng Nghymru yn y dyfodol, hyd yn oed ar ôl gweld nifer ei seddi yn Senedd Cymru yn gostwng i naw.

‘Marathon, nid sbrint’

Dywedodd arweinydd Llafur Cymru ei fod yn “hollol sicr nad ydym ni wedi gweld y diwethaf” o’i blaid fel grym etholiadol.

Ychwanegodd: “Nid sbrint fydd y broses o adeiladu plaid ar gyfer y dyfodol: plaid sy’n edrych ymlaen, yn uchelgeisiol ac yn gyffrous, ac sy’n rhoi’r pŵer sydd angen ei drosglwyddo i bobl wrth wraidd popeth a wnawn.

“Marathon yw hon. Rwyf innau’n redwr, fel Andy Burnham, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwella mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf, a’n bod mewn cyflwr da erbyn mis Mai nesaf ar gyfer yr etholiadau lleol.”

Ers dod i rym, mae’r Prif Weinidog wedi gwneud datganoli grym oddi wrth San Steffan yn rhan ganolog o’i agenda.

Dywedodd Mr Skates, a wnaeth gyfarfod â’r Prif Weinidog yn Llundain yn ddiweddar, ei fod bellach yn gweld agenda Mr Burnham o ddatganoli grym fel ffordd o wahaniaethu rhwng safbwyntiau’r ddwy blaid.

Roedd yn cyferbynnu’r dull hwnnw o ddatganoli â galwadau Plaid Cymru am roi pwerau newydd i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd wrth PA: “Rwy’n credu ei fod yn rhoi cyfle gwych i ni adeiladu plaid newydd sy’n edrych tua’r dyfodol, sy’n gyffrous, sy’n hyderus, ac sy’n amlwg yn blaid ddatganoli, tra bod Plaid Cymru yn blaid annibyniaeth a rheolaeth ganolog o Fae Caerdydd.”

Mae datganoli plismona yn parhau i fod yn nod i grŵp Llafur Cymru yn Senedd Cymru, yn ôl Mr Skates.

Mae’r mater yn cael ei drafod ag ASau’r blaid yn San Steffan, y mae rhai ohonynt wedi mynegi eu gwrthwynebiad i’r syniad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.