Beth yw gobeithion rhanbarthau Cymru yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig?

Newyddion S4C

Beth yw gobeithion rhanbarthau Cymru yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig?

Wrth i dymor Pencampwriaeth Rygbi Unedig 2026-27 gychwyn, mae gobaith newydd ledled rygbi rhanbarthol Cymru. 
 
Er mai Caerdydd oedd yr unig dîm o Gymru i gyrraedd y gemau ail gyfle y llynedd, mae pob un o'r pedwar rhanbarth yn credu bod lle ymhlith yr wyth uchaf o fewn eu cyrraedd y tymor hwn.
 
Gyda phum gêm ddarbi i ddod cyn egwyl mis Tachwedd, bydd y misoedd agoriadol yn allweddol wrth osod y naws ar gyfer ymgyrch a allai fod yn un dyngedfennol, ar y cae ac oddi arno.
 
Caerdydd am adeiladu ar lwyddiant
 
Caerdydd yw'r tîm sy'n dechrau'r tymor gyda'r disgwyliadau uchaf ar eu hysgwyddau.
 
Ar ôl gorffen yn chweched y tymor diwethaf a sicrhau lle yng Nghwpan y Pencampwyr bydd tîm Corniel van Zyl yn awyddus i brofi nad digwyddiad untro oedd eu llwyddiant. 
 
Bydd llawer yn dibynnu ar ffitrwydd y clo rhyngwladol Teddy Williams, a gafodd ei gyfyngu i dri ymddangosiad y llynedd oherwydd anaf difrifol i'w droed.
 
Mae Caerdydd wedi cryfhau eu rhestr chwarae gyda dyfodiad y prop profiadol Scott Sio a'r maswr Jarrod Evans, wrth i'r clwb geisio ychwanegu dyfnder ac ansawdd cyn ymgyrch newydd.
 
Bydd cadw eu record gartref gref ym Mharc yr Arfau yn hanfodol os ydynt am barhau i frwydro yn erbyn yr wyth uchaf.
 
Cyfnod newydd i'r Gweilch
 
Mae cyffro gwirioneddol o amgylch y Gweilch wrth i'r clwb baratoi ar gyfer bywyd yn Sain Helen.
 
Mae'r rhanbarth wedi cryfhau gyda nifer o chwaraewyr o Awstralia, gan gynnwys y canolwr Lalaki Foketi a'r asgellwr profiadol Marika Koroibete. 
 
Ond os yw tîm Mark Jones am herio am le yn y gemau ail gyfle, bydd rhaid iddynt wella eu record oddi cartref.
 
Ac er iddynt golli dau o'u sêr, Jac Morgan a Dewi Lake, i Gaerloyw, mae gobaith fydd y dechrau newydd yn troi perfformiadau addawol yn fwy o fuddugoliaethau yn enwedig oddi cartref.
 
Er bod y Gweilch wedi dangos eu bod yn gallu cystadlu â'r timau gorau ar eu diwrnod, collwyd gormod o bwyntiau oddi wrth gartref y tymor diwethaf. Gallai newid hynny drawsnewid eu hymgyrch.
 
Rhaid gweld ymateb gan y Scarlets
 
Y Scarlets, efallai, sydd â'r mwyaf i'w brofi.

Roedd gorffen yn 14eg a methu ennill gêm yng Nghwpan y Pencampwyr yn siom enfawr i glwb sy'n parhau i fod y rhanbarth Cymreig diweddaraf i ennill y gynghrair yn 2017.


Mae Nigel Davies wedi addo gweld tîm mwy ymosodol a chystadleuol y tymor hwn, tra bydd cefnogwyr yn gobeithio gweld Fletcher Anderson yn ailafael yn ei safon ragorol wedi iddo ddisgleirio yn ei dymor cyntaf yng Nghymru - er ei fod wedi'i anafu ar gyfer y gemau agoriadol.

Y prif chwaraewyr newydd yw Cullen Grace, y blaenasgellwr sydd wedi ennill un cap dros yr All Blacks, ond ni fydd yn cyrraedd tan fis Hydref.

Mae'r maswr profiadol Gareth Anscombe hefyd wedi arwyddo o Bayonne, er mwyn cynnig sefydlogrwydd a chefnogaeth i Sam Costelow a Carwyn Leggat-Jones.

Ond mae'r rhanbarth hefyd wedi colli rhywfaint o brofiad gyda'r blaenwyr rhyngwladol, Marnus van der Merwe, Alec Hepburn a Jake Ball yn gadael dros yr haf.

Nid yw gwelliant yn ddewisol yn Llanelli. Mae'n ofyniad.

Y Dreigiau yn ceisio parhau â'r cynnydd

Er iddynt orffen yn 15fed y llynedd, mae optimistiaeth gynyddol yng Nghasnewydd.

Fe wnaeth tîm Filo Tiatia gamau sylweddol ymlaen, gan gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Her Ewrop a chynyddu eu cyfanswm pwyntiau URC yn sylweddol o gymharu â'r ymgyrch flaenorol.

Mae'r Dreigiau yn credu y gall sefydlogrwydd helpu i sbarduno rhagor o gynnydd, ac mae'r clwb wedi gosod targed uchelgeisiol o fynd ati i herio am le yn yr wyth uchaf.

Mae'r rhanbarth wedi ychwanegu tri chwaraewr profiadol i'r garfan dros yr haf, sef asgellwr Tonga Anzelo Tuitavuki, y mewnwr o Samoa, Ereatara Enari a'r chwaraewr rheng-ôl o Seland Newydd, Terrell Peita.
 
Ond bydd yn rhaid i Ŵyr Gwent ymdopi ag absenoldeb wythwr Cymru, Aaron Wainwright, a wnaeth adael i ymuno â Chaerlŷr.
 
Bydd y cyfnod agoriadol yn rhoi cyfle iddynt adeiladu momentwm yn gyflym gyda nifer o gemau ar dir Cymru.
 
Ansicrwydd yn parhau
 
Ond mae cysgod yn dal i barhau dros rygbi rhanbarthol Cymru.
 
Tra bod y pedwar rhanbarth yn canolbwyntio ar y tymor sydd o'u blaenau, mae cynlluniau Undeb Rygbi Cymru i leihau nifer y rhanbarthau proffesiynol i dri erbyn 2028 yn parhau i greu ansicrwydd.
 
Mae Caerdydd a'r Dreigiau yn ymddangos mewn safle cryf i sicrhau eu dyfodol, sy'n golygu y gallai'r frwydr rhwng y Scarlets a'r Gweilch am oroesi yn y gorllewin fod yr un mor bwysig â'r frwydr am bwyntiau ar y cae.
 
Felly, wrth i'r tymor newydd ddechrau, mae un peth yn sicr. Mae gan bob rhanbarth resymau i frwydro am y gemau ail gyfle.
 
Ond mewn blwyddyn a allai siapio dyfodol rygbi proffesiynol Cymru, mae llawer mwy na safle yn y tabl yn y fantol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.