Steffan Lloyd Owen: 'Dwi wedi rhoi’r gorau i weld galar fel rhywbeth cwbl negyddol'
Ddeng mlynedd ar ôl colli ei fam, mae'r bariton o Fôn Steffan Lloyd Owen yn dweud nad yw eisiau profi galar fel rhywbeth "negyddol" mwyach, ond yn hytrach fel rhywbeth y dylen ni "siarad amdano'n fwy".
Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth y canwr, sy'n 30 oed, drafod sut mae galaru am ei fam wedi newid dros y ddegawd ddiwethaf.
Ym mis Medi 2016, cafodd ei fam Susan Owen, yn 50 oed ar y pryd, ei lladd ar ôl i wrthrych ddod yn rhydd oddi ar gerbyd dyn oedd yn gyrru'n beryglus, a darodd ei char ar ffordd ger Bangor.
Bu farw Mrs Owen ychydig wythnosau wedi i Steffan ennill gwobr Y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni y flwyddyn honno.
Yn ei fideo ddydd Mercher oedd yn nodi union 10 mlynedd ers marwolaeth ei fam, dywedodd ei fod yn meddwl mai rhywbeth "oedd yn rhaid i chi ymdopi ag ef" yw galar.
"'Dw i wastad 'di gweld y dyddiad hwn fel un anodd iawn oherwydd dydy'r dyddiad ei hun ddim yn golygu dim i Mam," meddai.
"Dim ond oherwydd mai dyma'r diwrnod y bu hi farw y mae'n bwysig", meddai.
Ychwanegodd: "'Dw i bob amser wedi bod yn agored i drafod y pwnc hwn wyneb yn wyneb ond mae'n teimlo'n llawer anoddach i bostio hwn i bawb i'w weld.
"Mae galar yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn ei brofi rywbryd yn ein bywydau, ac eto, am ryw reswm, rydyn ni’n dal i gael trafferth siarad amdano.
"Rydyn ni’n poeni y gallai wneud i bobl deimlo’n anghyfforddus. Efallai ein bod ni’n poeni, ar ôl peth amser, y dylen ni fod wedi symud ymlaen erbyn hyn.
"Neu, yn fy achos i, rydych chi’n poeni y gallai galar eich diffinio chi," meddai.
Peidio â bod 'mor ofnus o alar'
Treuliodd Steffan gyfnod fel artist ifanc yn y Tŷ Opera yn Zurich y llynedd, gan berfformio ar yr un llwyfan â'i arwr o Bant Glas, Syr Bryn Terfel.
Mae hefyd yn un o raddedigion y Royal Northern College of Music ym Manceinion.
Yn y fideo, dywedodd bod "gymaint o rannau enfawr" o'i fywyd na chafodd ei fam eu gweld.
"Fy ngraddio, priodas fy mrawd, cymaint o’m taith fel canwr – ac, efallai’r peth anoddaf i mi, chafodd hi erioed gwrdd â’m mab.
"Ond dydy galar ddim bob amser yn ymwneud â bod yn drist," meddai.
"'Dw i’n meddwl bod galar wedi fy ngwneud i’n artist gwell – mae galar wedi rhoi dealltwriaeth i mi o gariad, colled, torcalon ac unigrwydd nad oedd gen i o’r blaen.
"'Dw i wedi rhoi’r gorau i weld galar fel rhywbeth cwbl negyddol. Mae galar yno oherwydd ein bod ni’n caru rhywun," ychwanegodd.
Eisiau cofio'r ffaith ei bod wedi byw
Ar ffurf teyrnged ar ddiwedd ei fideo dywedodd Steffan fod gan ei fam y "wên fwyaf anhygoel" a’r "gallu mwyaf rhyfeddol" i wneud rhywun deimlo'n "dda am ei hun".
"Roedd hi’n ein caru ni’n ddiamod," meddai.
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, dywedodd Steffan nad oedd eisiau cofio'r dyddiad hwn fel y dyddiad y bu farw ei fam, ond yn hytrach, ei gofio fel ffaith "ei bod wedi byw".
