Môn: Disgwyl i ddau beilot 'wella'n llwyr' ar ôl i'w hawyren blymio i'r ddaear
Mae disgwyl i ddau beilot a gafodd eu hanafu wedi i'w hawyren blymio i'r ddaear ar Ynys Môn ddydd Mercher wella'n llwyr o’u hanafiadau.
Bu’n rhaid i'r ddau beilot ddianc o'r awyren Hawk T2 drwy ddefnyddio parasiwtiau, cyn iddi ddisgyn i'r ddaear ger tai cyfagos ym Mhencarnisiog wrth safle RAF Y Fali.
Mae clipiau fideo yn dangos y foment pan ffrwydrodd yr awyren wrth daro’r tir.
Mae’r Awyrlu Brenhinol yn dweud eu bod wedi rhoi saib dros dro ar hediadau awyrennau Hawk fel “cam rhagofalus” wrth i ymchwiliadau i’r digwyddiad barhau.
Ddydd Iau, dywedodd y RAF bod y peilotiaid yn derbyn triniaeth am fân anafiadau.
“Mae’r ddau beilot yn gwneud yn dda, maen nhw mewn hwyliau da ac mae disgwyl iddyn nhw wneud gwellhad llwyr.
“Mae ymchwiliad ffurfiol i amgylchiadau’r digwyddiad wedi dechrau ac fel cam rhagofalus, mae’r RAF wedi rhoi saib dros dro ar weithrediadau hedfan Hawk T1 a Hawk T2.”
Roedd heddlu a gwasanaeth tân y gogledd a'r Ambiwlans Awyr yn rhan o’r ymateb i’r digwyddiad brynhawn ddydd Mercher.
Er i’r awyren ffrwydro ar ôl taro’r tir, oedd ger maes carafanau, ni chafodd unrhyw anafiadau eu hadrodd na difrod i unrhyw adeiladau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Wes Streeting ddydd Iau eu bod yn "ymchwilio i sut a pham y digwyddodd y digwyddiad".
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru, ei fod yn “falch iawn o glywed nad yw criw'r awyren jet Hawk yn RAF Fali wedi'u hanafu'n ddifrifol.”
“Diolch i'r holl wasanaethau brys am yr ymateb cyflym, ac rwy'n dymuno gwellhad cyflym i'r criw.”