Dynes wedi achosi gwerth £10,000 o ddifrod i gamerâu CCTV yn y Bermo
Mae dynes wedi’i dedfrydu ar ôl iddi achosi dros £10,000 o ddifrod i gamerâu CCTV yn y Bermo yng Ngwynedd.
Fe wnaeth April Lock, o Stryd y Brenin Edward yn y dref ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno wedi ei chyhuddo o ddifrod troseddol a dwyn.
Ym mis Mehefin eleni, aeth Lock i adeilad cymdeithas dai ar Stryd Jubilee yn y Bermo, er ei bod wedi’i gwahardd rhag mynd yno.
Gorfododd ddau ddrws yn agored gan achosi difrod iddyn nhw.
Yna fe chwistrellodd baent dros 12 camera CCTV yn yr adeilad ac achosodd ddifrod i’r synhwyrydd mwg.
Roedd cyfanswm cost y difrod yn £10,660.
Cafodd Lock ei dedfrydu i chwe mis o garchar, wedi’i ohirio am 12 mis yn ogystal â derbyn gorchymyn i dalu iawndal.