Catherine Zeta-Jones: 'Fy nghariad at yr Elyrch yn fy atal rhag mynd i Wrecsam'
“Mae’n anodd iawn esbonio i Americanwyr fy mod i’n dod o Abertawe ac wedi cael fy magu gyda (chlwb) Dinas Abertawe,” meddai.
“Roedd fy ewythr Bobby yn gyfarwyddwr i’r Elyrch pan arweiniodd John Toshack y tîm i’r Uwch Gynghrair.
"Roeddwn i yn y sedd flaen yn ystod y parêd. Rydw i wedi bod yn gefnogwr Dinas Abertawe gydol fy oes.”
Mae cyfres Welcome to Wrexham gan Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi mwynhau llwyddiant rhyngwladol ers i'r ddau actor brynu'r clwb yn 2021.
Ychwanegodd yr actores yn y cyfweliad: “Alla i ddim mynd i Wrecsam.
“Alla i ddim hyd yn oed mynd i Wrecsam i ddweud wrthyn nhw faint rydw i’n caru Abertawe," ychwanegodd.
"Dwi’n meddwl y bydden nhw’n taflu brics ata i yn y stryd."