Carcharu ffermwr o Drefynwy am achosi marwolaeth beiciwr modur 26 oed

Barker

Mae ffermwr o dde Cymru wedi ei garcharu am wyth mlynedd am achosi marwolaeth beiciwr modur yn Sir Henffordd yn 2022.

Cafwyd Philip Baker, 61 oed, o Lanwarw, Trefynwy, yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn Llys y Goron Caerwrangon ar 28 Gorffennaf eleni yn dilyn achos llys.

Yn yr un llys yn gynharach yr wythnos hon, cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar a'i wahardd rhag gyrru am naw mlynedd.

Roedd Philip Baker yn gyfrifol am y gwrthdrawiad angheuol a ddigwyddodd am 21.50 ar 11 Awst 2022, pan gollodd y beiciwr modur Dr Steven Lee ei fywyd yn 26 oed.

Roedd Baker wedi bod yn cludo gwellt o gae ac yn teithio o Walford i gyfeiriad Trefynwy ar yr A40 funudau cyn y gwrthdrawiad.

Ond roedd gan y tractor a'r trelar yr oedd yn eu gyrru nifer o ddiffygion peryglus, gan gynnwys absenoldeb ffagl oren a ddylai fod yn ei lle i rybuddio defnyddwyr eraill y ffordd am y perygl posibl o achos ei gyflymder arafach.

Cyflwr gwael

Roedd y tractor a'r trelar hefyd mewn cyflwr gwael ac wedi'u gorlwytho gyda byrnau gwellt. 

Nid oedd brêc y trelar yn gweithio ac nid oeddent wedi'u cysylltu â chaban y tractor. 

Roedd y bibell hydrolig rhyngddynt wedi'i chynnal yn wael, ac roedd cebl y goleuadau wedi'i ddal yn ei le gan linyn beilio.

Mewn teyrnged iddo yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd teulu Dr Steven Lee:

“Roedd Steven yn byw ei fywyd i’r eithaf ac fe gyflawnodd gymaint yn yr amser a gafodd.

“Roedd yn gallu helpu, cefnogi a chyfrannu at fywydau cynifer o bobl, ac ni wnaeth oedi i wneud hynny.

“Rydym yn ei gofio fel mab cariadus, brawd iau annwyl, ewythr difyr, partner gwych a ffrind arbennig. Bydd colled fawr ar ei ôl bob amser.”

Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Rhingyll Michael Straughan, Prif Ymchwilydd ar gyfer Marwolaethau ar y Ffyrdd gyda Heddlu Gorllewin Mersia: “Rydym yn falch o sicrhau’r ddedfryd hon ar gyfer Baker; nid yn unig yr oedd ei dractor a’i drelar mewn cyflwr gwael, ond yn hollbwysig, nid oeddent yn arddangos y ffagl rhybuddio oren chwaith.

“Oherwydd absenoldeb y ffagl honno, ni chafodd Steven rybudd digonol o’r cerbyd ar y ffordd, ac ni allai amcangyfrif ei gyflymder yn gywir - cyflymder a fyddai wedi bod yn llai na 25mya ar ffordd lle mae’r terfyn uchaf yn 70mya i’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr y ffordd. 

"Arweiniodd yr esgeulustod hwn at y gwrthdrawiad angheuol a cholli bywyd yn ddiangen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.