Admiral i dorri 500 o swyddi ar draws y DU

Admiral

Mae cwmni yswiriant Admrial wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri 500 o swyddi yn y DU.

Mae’r cwmni, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn dweud eu bod gwneud y toriadau mewn ymgais i arbed £100 miliwn.

Bydd y cynllun yn effeithio tua 5% o weithlu yswiriant y cwmni ar draws y DU.

Mewn datganiad, dywedodd Alistair Hargreaves, Prif Weithredwr Admiral UK Insurance: “Rydym yn cydnabod y bydd hwn yn gyfnod anodd i’r cydweithwyr yr effeithir arnynt, a’n blaenoriaeth uniongyrchol yw cefnogi’r cydweithwyr hynny, gan gynnwys edrych ar gyfleoedd i’w hadleoli i swyddi eraill lle bynnag y bo modd.”

Dywedodd y cwmni yswiriant y bydd yn cynnig cymorth i bobl symud ymlaen yn eu gyrfaoedd a chefnogaeth i’w helpu i ystyried cyfleoedd newydd.

Ychwanegodd Mr Hargreaves: “Yn ogystal â chynnig telerau diswyddo gwell, rydym hefyd yn buddsoddi’n sylweddol mewn cymorth ystyrlon i helpu cydweithwyr i ystyried eu hopsiynau ar gyfer y dyfodol.”

Er bod y cwmni’n defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) yn ei waith, dywedodd Admiral nad AI sydd wrth wraidd y penderfyniad i dorri’r swyddi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’n siomedig clywed y bydd Admiral yn gwneud y diswyddiadau hyn.

“Bydd cyfarfod yn cael ei drefnu gyda’r cwmni i ddeall y rhesymau dros y penderfyniad ac i gynnig cymorth ychwanegol i’r rhai yr effeithir arnynt drwy ein partneriaethau â ReAct+, Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a gwasanaethau cyflogadwyedd awdurdodau lleol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.