Taliadau ymlaen llaw yn cynyddu i ffermwyr wedi sychder yr haf
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn addasu'r cynllun taliadau ar gyfer ffermwyr oherwydd yr amodau "eithriadol o anodd" eleni yn sgil y tywydd sych dros yr haf a heriau eraill.
Bydd cyfradd y taliad ymlaen llaw sydd ar gael o dan Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a'r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) yn cynyddu o 70% i 80%.
Bydd busnesau fferm cymwys yn derbyn mwy o'u taliad disgwyliedig yn gynt, gan helpu i leddfu pwysau ar lif arian, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae ffermwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi bod y tywydd sych wedi lleihau twf glaswellt yn sylweddol drwy gydol yr haf, gan amharu ar batrymau torri a phori arferol. Mae hyn wedi golygu bod llawer o ffermydd yn methu â thaenu slyri fel y byddent yn arfer ei wneud.
Mae hyn wedi arwain at bryderon bod lefelau storio slyri yn uwch na'r arfer yn yr hydref.
Wrth ymateb i hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth sy'n diwygio'r cyfnod cau ar gyfer taenu slyri a thail.
Fel arfer, mae cyfyngiadau ar ffermwyr rhag taenu slyri ar dir yn ystod y cyfnod hwn, ond nawr bydd taenu yn cael ei ganiatáu hyd at 15 Tachwedd.
Yn ôl y llywodraeth, bydd y newid yn rhoi mwy o amser i ffermwyr leihau lefelau storio yn gyfrifol a lleihau'r risg o storfeydd slyri yn methu yn ystod y gaeaf.
Mae tail dofednod wedi'i eithrio o'r newid, gyda'r llywodraeth yn nodi bod modd ei "reoli'n ddiogel trwy ddulliau storio amgen."
'Gwrando a gweithredu'
Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: "Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol gan ffermwyr a thyfwyr am effeithiau sychder yr haf hwn, a'r heriau ehangach sy'n wynebu'r sector, ac maen nhw wedi dweud wrthyf fod angen tri pheth arnynt gan eu llywodraeth: sicrwydd, hyblygrwydd a chefnogaeth.
"Rydw i wedi gwrando, ac rydyn ni'n gweithredu.
"Rydym yn gwneud newidiadau i'r cyfnod cau ar gyfer taenu slyri a thail i roi mwy o hyblygrwydd i ffermwyr reoli storio'n ddiogel ac yn gyfrifol wrth i ni fynd i'r hydref.
"Nid yn unig rydym wedi cyflawni ein hymrwymiad i dalu taliad ymlaen llaw am SFS ym mis Hydref, ond rydym hefyd wedi mynd ymhellach i helpu gyda llif arian. Rydym yn cynyddu taliadau ymlaen llaw o dan SFS a BPS, o 70% i 80%, fel bod busnesau fferm yn cael mwy o'u taliad disgwyliedig yn gynt."
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Abi Reader, fod yr undeb yn croesawu'r cyhoeddiad.
"Mae'r penderfyniad i gynyddu taliadau cymorth ymlaen llaw a fydd yn cael eu gwneud o ddydd Mercher 14 Hydref ymlaen hefyd yn gydnabyddiaeth werthfawr o'r effaith ariannol y mae'r sychder hir a'r gwres eithafol wedi'i chael ar ffermydd teuluol," meddai.
"Fel undeb, rydym yn croesawu'r ymyrraeth tymor byr gan Weinidog y Cabinet. Rydym yn parhau i fod yn optimistaidd y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r gwersi a gafodd eu dysgu yn ystod y cyfnod hwn wrth ddatblygu atebion ymarferol a mwy hirdymor i’r problemau sy'n cael eu hachosi gan yr agwedd o ‘ffermio yn ôl y calendr'."
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, y corff sy'n goruchwylio materion amgylcheddol, wedi dweud ei fod yn cefnogi'r estyniad dros dro i'r cyfnod taenu slyri yn sgil y tywydd sych.
Yn ôl y sefydliad, mae'r cyfnod hir o ddiffyg glaw a thymheredd uchel wedi creu heriau sylweddol i fusnesau ffermio, ac wedi effeithio ar afonydd, cynefinoedd a bywyd gwyllt ledled Cymru hefyd.
Dywedodd Rheolwr Rheoleiddio Polisi a Dull Gweithredu CNC, Eirian Macdonald: "Dyma flwyddyn eithriadol i ffermwyr ledled Cymru, ac rydyn ni’n cydnabod bod llawer wedi gorfod darparu porthiant ychwanegol i dda byw ac anifeiliaid dan do mewn tymereddau uchel, er mwyn galluogi mynediad at ddigon o borthiant a dŵr.
"Mae hyn wedi arwain at gynhyrchu mwy o slyri ar adeg pan fo llai o daenu slyri yn digwydd oherwydd pridd sych, diffyg twf cnydau a llai o angen maetholion.
"Rydyn ni’n cefnogi'r mesur dros dro hwn sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru, gan ei fod yn rhoi hyblygrwydd ychwanegol, gan helpu i leihau'r risg o broblemau’n ymwneud â chapasiti storio slyri yn nes ymlaen yn y flwyddyn."
Ychwanegodd Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd yn parhau i ddisgwyl i amaethwyr lynu at Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol, ac y bydd yn gweithio gyda ffermwyr a phartneriaid ar draws y sector amaethyddol i gefnogi cydymffurfiaeth wrth amddiffyn dŵr, tir ac aer Cymru.
