'Gostyngiad sylweddol' yn nifer y bobl ifanc sy'n fepio yng Nghymru

Bachgen yn dal fep

Mae 'gostyngiad sylweddol' wedi bod yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n fepio yng Nghymru, yn ôl data newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) yn cael ei gynnal bob dwy flynedd gan dros 130,000 o ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 i 11 mewn ysgolion uwchradd prif ffrwd ledled Cymru. 

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod cyfran y bobl ifanc ym mlynyddoedd 7 i 11 a nododd eu bod yn fepio o leiaf unwaith yr wythnos bellach yn 5.2%, sef gostyngiad o 7% yn 2023. 

Dyma'r tro cyntaf i gyfraddau fepio ostwng ers 2019, ac mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn cynrychioli gostyngiad o dros 3,000 o bobl ifanc sy'n fepio'n rheolaidd ers i arolwg 2023 gael ei gynnal. 

Mae cyfradd y bobl ifanc ym mlwyddyn 11 sy'n fepio o leiaf unwaith yr wythnos hefyd wedi gostwng i 12.8%, o gymharu â 15.9% yn arolwg 2023.

Roedd merched ym mlynyddoedd 7 i 11 yn fwy tebygol (6.6%) o nodi eu bod yn fepio'n rheolaidd na bechgyn (3.7%) yn ôl y data. 

'Croesawu'r gostyngiad'

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y gostyngiad yn cyd-fynd â 'chyfnod o ffocws cyhoeddus a pholisi cynyddol ar fepio' ymysg pobl ifanc, gan gynnwys cyflwyno gwaharddiad ar fepio untro ym mis Mehefin y llynedd.

Yn ôl y corff, mae’n rhy gynnar o hyd i asesu effaith y gwaharddiad yn llawn, ac nid yw’n bosibl dweud ar hyn o bryd i ba raddau y mae wedi cyfrannu at y newidiadau yn yr arolwg hwn. 

Ond ychwanegodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y gostyngiad "yn gyson â thystiolaeth o ffynonellau eraill" sy’n awgrymu bod cyfraddau fepio wedi gostwng ers cyhoeddi’r gwaharddiad ar fêps tafladwy.

Mae gostyngiad wedi bod hefyd yn y cyfraddau ymysgu, gyda 1,600 yn llai o bobl ifanc yn ysmygu'n rheolaidd yn 2025 o gymharu â 2023.

Dywedodd Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r dystiolaeth yn glir: er bod fepio’n llai peryglus nag ysmygu ar y cyfan, nid yw’n ddi-risg ac ni ddylai’r un plentyn na pherson ifanc fod yn fepio.

“Felly ar ôl nifer o flynyddoedd lle gwelwyd lefelau cynyddol o fepio ymhlith plant a phobl ifanc, rydym yn mawr groesawu’r gostyngiad hwn yn lefelau fepio ac ysmygu.

"Byddwn yn parhau i fonitro defnydd pobl ifanc o gynhyrchion nicotin, gan ddefnyddio arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion a ffynonellau data eraill, i geisio nodi a yw hwn yn effaith untro, neu’n arwydd o duedd parhaus ar i lawr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.