Carcharu Gwyddel am ladd mam i ddau mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam
Mae Gwyddel oedd â rhestr hir o droseddau gyrru blaenorol wedi ei garcharu am 13 o flynyddoedd am ladd mam i ddau mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam.
Roedd Michael Connors wedi mynd ar ffo yn Iwerddon ar ôl lladd Lydia La Polla, 47 oed, wrth iddo gael ei erlyn drwy strydoedd y ddinas ym mis Mawrth y llynedd.
Cafodd ei estraddodi ar warant ryngwladol yn ôl i Gymru i wynebu cyfiawnder.
Plediodd Connors, sy'n 28 oed ac yn dod o Ffordd Landen, Ballyfermot, Dulyn, yn euog i achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus i ŵr y ddioddefwraig, Robert La Polla, 44 oed ac i ferch 16 oed oedd yn teithio yn y car Mercedes arian yr oedd yn ei yrru ar y pryd.
Mae wedi ei garcharu am 13 o flynyddoedd a mis, a'i wahardd rhag gyrru am wyth mlynedd.
Bydd yn rhaid iddo basio prawf gyrru estynedig pan fydd yn cael ei ryddhau o'r carchar.
'Llwfr'
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun, dywedodd y Barnwr Simon Mills wrth Connors fod "bywyd gwych Mrs La Polla wedi dod i ben yn ddiangen yn 47 oed, yn agos at ei phen-blwydd priodas o 25 o flynyddoedd."
Roedd Connors wedi ffoi o leoliad y ddamwain mewn "dull llwfr", ychwanegodd.
Wrth gyfeirio at y diffynnydd yn y doc, dywedodd y barnwr wrtho: "Os oes gan y diffynnydd unrhyw synnwyr o foesoldeb o gwbl, bydd yn cario baich yr hyn a wnaeth hyd ddiwedd ei oes.
"Ni ddylech fod wedi bod yn gyrru'r cerbyd hwn ar y ffordd; nid oedd gennych yswiriant ac nid oedd gennych drwydded.
“Nid ydym yn gwybod a oeddech dan ddylanwad canabis ai peidio. Nid wyf yn tybio eich bod, er i bedwar pecyn ohono gael eu canfod yn y cerbyd."
'Wedi'n chwalu'
Mewn datganiad dioddefwr a ddarllenwyd yn y llys cyn y dedfrydu, dywedodd gŵr Lydia fod marwolaeth ei wraig wedi gadael “ymdeimlad dwfn o golled” ar ei ôl.
“Ni fydd fy mywyd byth yr un fath eto,” ysgrifennodd.
“Mae dweud fy mod i wedi torri fy nghalon yn rhy wan o ddisgrifiad.
“Roedd Lydia yn fam wych i’n plant ac roeddent yn ei haddoli’n llwyr. Mae’n torri fy nghalon i wybod na fydd eu mam yno ar gyfer eu priodasau, ac na fydd hi yno i’w gweld yn tyfu i fyny ac yn cael plant eu hunain.
“Mae ein teulu agos wedi’i chwalu’n fil o ddarnau, ac ni fydd byth yr un fath eto heb Lydia.”
'Canlyniadau dinistriol'
Wrth siarad yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Jaqueline Downes: “Mae ein cydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theulu Lydia, sy’n parhau i fyw gyda chanlyniadau dinistriol y digwyddiad hwn.
“Ni ddylai neb byth adael eu cartref a methu â dychwelyd yn ddiogel.
“Fe wnaeth teulu Lydia ymddwyn gydag urddas drwy gydol yr achos cymhleth a hirfaith hwn, ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu hymddiriedaeth yn ein hymchwiliad.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r aelodau o’r cyhoedd a ddaeth i gynorthwyo’r rhai oedd yn y fan a’r lle..., cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd.
“Yn ogystal â’r ddedfryd o garchar y bydd Connors yn ei gwasanaethu nawr, rhaid iddo fyw gyda’r wybodaeth bod ei weithredoedd wedi arwain at farwolaeth Lydia ac wedi achosi poen annirnadwy i’w theulu, yn ogystal ag anafiadau difrifol i ddau berson arall.
"Mae’r achos hwn yn dangos y peryglon gwirioneddol sy’n gysylltiedig â gyrru’n beryglus, ac rydym yn gobeithio bod y ddedfryd hon yn rhybudd i eraill am y canlyniadau a allai fod yn ddinistriol o ymddygiad o’r fath.”