Addo newid ‘yn fuan’ ar restrau aros y GIG yng Nghymru wrth gyhoeddi arian ar gyfer hwb newydd
Mae’r Gweinidog Iechyd Mabon ap Gwynfor wedi addo newid “yn fuan” ar amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Daw ei sylwadau wrth i’r llywodraeth gyhoeddi cymorth ariannol gwerth £121 miliwn ar gyfer Hwb Arthroplasti Orthopedig Rhanbarthol ym Mharc Iechyd Llantrisant. Y gobaith yw y bydd yn helpu i leihau amseroedd aros.
Mae’r ffigurau diweddaraf ar amseroedd aros y GIG yn dangos bod nifer y cyfnodau aros o ddwy flynedd neu fwy yn 4,700 ym mis Gorffennaf. Roedd hynny 82% yn uwch nag ym mis Mawrth.
Wrth siarad ar raglen Politics Wales ar BBC One Wales, dywedodd Mabon ap Gwynfor eu bod nhw wedi etifeddu’r amseroedd aros hynny gan y llywodraeth flaenorol.
Ond roedd yn “hyderus y byddai amseroedd aros yn dod i lawr ac y bydd modd cael gwared ar amseroedd aros dwy flynedd o fewn misoedd,” meddai.
“Mae’r data a welson ni yn ymwneud â mis Gorffennaf, ac fe gafodd ei etifeddu gan y llywodraeth flaenorol, wrth gwrs, oherwydd ni fyddech wedi disgwyl i ni allu cyflawni unrhyw beth dros nos.”
Mae disgwyl i’r gwaith ar y Hwb Arthroplasti Orthopedig Rhanbarthol ddod i ben ddiwedd 2028, ac i’r hwb dderbyn cleifion o ddechrau 2029 ymlaen.
Mae disgwyl y bydd yr hwb yn cyflawni 3,000 o lawdriniaethau bob blwyddyn, ar gyfartaledd.
Mae tri bwrdd iechyd, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wrthi’n cydweithio ar y prosiect.
Roedd yr achos busnes dros yr hwb newydd, a gafodd ei gyflwyno gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ym mis Tachwedd y llynedd, yn rhybuddio na fyddai’r hwb yn ddigon ar ei ben ei hun i ateb y galw am driniaethau.
Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Mabon ap Gwynfor ei fod yn “hwb sylweddol i’r gwaith o adeiladu cyfleuster pwrpasol newydd ym Mharc Iechyd Llantrisant”.
“Mae wedi’i gynllunio i leihau amseroedd aros, a sicrhau bod pobl yn cael y triniaethau sydd eu hangen arnyn nhw’n gynt,” meddai.
“Unwaith y bydd ar agor, fe fydd yr Hwb newydd yn cyflawni miloedd o lawdriniaethau ac yn gwreiddio cynaliadwyedd parhaol yn y system.
“Dyma beth yw gwir fuddsoddi yn yr NHS, nid datrysiad sydyn, ond y capasiti sydd ei angen arnon ni i gael gwared ar yr ôl-groniad o achosion a chadw amseroedd aros i lawr yn y dyfodol.”