Gwynedd: Disgwyl gohirio penderfyniad ar dreth twristiaeth ar ôl ymateb ‘sylweddol’ i ymgynghoriad
Mae’n debygol y bydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu gohirio penderfyniad ynghylch cyflwyno treth twristiaeth mewn cyfarfod yr wythnos nesaf.
Ar ôl cael “ymateb sylweddol” i ymgynghoriad cyhoeddus, gyda 6,856 o ymatebion, dywedodd y cyngor fod angen rhagor o amser i asesu’r manylion yn llawn.
Roedd dadansoddiad cychwynnol o’r data yn dangos gwrthwynebiad cryf ymhlith busnesau ac ymwelwyr, tra bod barn trigolion lleol wedi’i rhannu ar gyflwyno’r dreth.
Bydd y dreth – neu yr ardoll ymwelwyr, fel y’i gelwir yn swyddogol - yn cael ei thrafod mewn cyfarfod o gyngor llawn Cyngor Gwynedd ddydd Iau, 24 Medi.
Mae adroddiad ar gyfer y cyfarfod hwnnw yn dweud: “Y penderfyniad a geisir yw derbyn yr adroddiad; a chytuno i dderbyn adroddiad cyflawn i benderfynu a ddylid cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yng Ngwynedd ai peidio, unwaith y bydd y gwaith o ddadansoddi, ystyried ac ymateb i gynnwys yr ymgynghoriad wedi’i gwblhau’n llawn ac yn briodol.”
Roedd y cyngor i fod i gyflwyno adroddiad ar 24 Medi 2026, a rhoi 12 mis o rybudd i Awdurdod Cyllid Cymru o’i fwriad i gyflwyno’r ardoll.
Byddai hynny wedi caniatáu dechrau ei chasglu o 1 Hydref 2027.
Dim ond dau gyfle sydd bob blwyddyn i roi hysbysiad o fwriad, sef 1 Ebrill neu 1 Hydref.
Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi rhedeg rhwng 20 Mai a 26 Gorffennaf 2026, ar ôl cael ei ymestyn am 11 diwrnod.
Roedd Partneriaeth Gwynedd ac Eryri 2035 wedi gofyn am yr estyniad mewn cyfarfod arbennig i drafod yr ardoll ar 12 Mehefin 2026.
O ystyried yr estyniad, nifer uchel yr ymatebion a’r ystod o faterion a godwyd, dywedodd yr adroddiad ar gyfer y cyfarfod dydd Iau nad oedd y cyngor “mewn sefyllfa i wneud penderfyniad ar hyn o bryd”.
Roedd wedi cael “cyngor cyfreithiol clir nad yw’n bosibl bwrw ymlaen â phenderfyniad ar yr ardoll ym mis Medi 2026”, fel y bwriadwyd yn wreiddiol.
Y rheswm oedd “nad oedd wedi bod yn bosibl dadansoddi, prosesu ac ystyried holl ymatebion yr ymgynghoriad o fewn yr amser oedd ar gael”.
Ychwanegodd: “Nid yw’r holl wybodaeth, ffactorau a thystiolaeth mewn ymateb i’r ymgynghoriad wedi’u paratoi a’u cyflwyno eto mewn ffurf sy’n addas i’w chyflwyno i’r Cyngor.
“O ganlyniad, ni fyddai’r Cyngor yn gallu rhoi ystyriaeth lawn i’r mater cyn dod i benderfyniad.”
O blaid ac yn erbyn
Roedd yr adroddiad yn nodi bod yr ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod yn “sylweddol” ac yn “fwy na’r disgwyl”.
Cafwyd cyfanswm o 6,856 o ymatebion ar ôl gofyn am farn trigolion, busnesau, ymwelwyr a rhanddeiliaid.
Roedd hynny’n sylweddol uwch na’r 2,000 o ymatebion a gafwyd ar Ynys Môn, a’r 1,300 yng Nghonwy.
Yn ôl y dadansoddiad cychwynnol, roedd 48.7% o drigolion Gwynedd a ymatebodd yn cefnogi’r cynnig i gyflwyno Ardoll Ymwelwyr, gyda ychydig yn llai, 43.5%, yn gwrthwynebu.
Dim ond 14.7% o fusnesau a ymatebodd oedd yn ei gefnogi, tra bod 79.5% yn gwrthwynebu.
Ymhlith yr ymwelwyr a ymatebodd, dim ond 10.7% oedd yn ei gefnogi, tra bod 79.9% yn gwrthwynebu.
O ystyried yr ymatebion i gyd, gan gynnwys ymwelwyr, trigolion a busnesau, roedd 22.7% yn cefnogi’r cynnig i gyflwyno Ardoll Ymwelwyr a 68.5% yn gwrthwynebu.
Roedd yr adroddiad yn nodi: “Dylid cofio nad ymgynghoriad oedd hwn ynghylch a oedd ymatebwyr ‘o blaid’ neu ‘yn erbyn’ y cynnig am Ardoll Ymwelwyr yng Ngwynedd.
“Yn hytrach, roedd yn ymgynghoriad i nodi effeithiau posibl cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn y sir ac i helpu i ddod i benderfyniad.”
Y cynnig oedd cyflwyno adroddiad i gyfarfod o’r cyngor llawn, yn gofyn iddo benderfynu a ddylid cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yng Ngwynedd.
Byddai hynny’n digwydd unwaith y byddai’r gwaith o “ddadansoddi, ystyried ac ymateb i’r ymgynghoriad wedi’i gwblhau”.
“O ganlyniad i’r oedi yn yr amserlen, nid yw’n bosibl ar hyn o bryd pennu pryd y gellir cyflwyno’r hysbysiad perthnasol i Awdurdod Cyllid Cymru,” meddai.
“Bydd hyn yn dibynnu ar bryd y caiff yr adroddiad ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn, ac ar benderfyniad y Cyngor ynghylch a ddylid cyflwyno Ardoll Ymwelwyr yng Ngwynedd.”
Beth yw’r ardoll?
Byddai’r ardoll yn golygu tâl fesul noson i bobl sy’n aros dros nos mewn llety i ymwelwyr.
Fe fyddai yn berthnasol i westai, llety gwely a brecwast, llety hunanddarpar, carafanau gwyliau, meysydd gwersylla, hosteli a llety sy’n cael ei rannu.
Byddai’r tâl am hosteli, ystafelloedd sy’n cael eu rhannu a lleiniau pebyll yn 75c ynghyd â TAW, sef 90c y pen y noson.
Byddai’r rhan fwyaf o fathau eraill o lety, gan gynnwys gwestai, llety gwely a brecwast, llety hunanddarpar a charafanau, yn costio £1.30 ynghyd â TAW, sef £1.56.
Byddai eithriadau’n cynnwys ymwelwyr o dan 18 oed sy’n aros mewn meysydd pebyll neu mewn llety sy’n cael ei rannu.
Byddai eithriadau hefyd pan fyddai arhosiad yn para mwy na 31 noson o fewn un archeb, ac ar gyfer llety brys neu dros dro wedi’i drefnu gan awdurdod lleol.
Byddai’r arian a godir drwy’r ardoll yn cael ei ailfuddsoddi’n lleol i gefnogi cymunedau, diwylliant, y Gymraeg, yr amgylchedd, cyfleusterau a seilwaith.