Llafur Cymru’n canslo cynhadledd ynghylch pryderon am Covid-19
20/09/2021
Mae Llafur Cymru wedi cytuno i ganslo ei chynhadledd yn 2021 oherwydd pryderon am Covid-19 a’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.
Roedd y gynhadledd i fod i gymryd lle rhwng 5 a 7 Tachwedd yn Llandudno.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: “Nid yw’r feirws wedi diflannu, ac mae arwyddion yn dangos y dylen ni ddisgwyl cyrraedd brig o ran achosion Covid-19, a gweld ein gwasanaeth iechyd a gofal dan bwysau yn yr hydref.”
“Nid yw wedi bod yn benderfyniad hawdd, ond rydym yn credu mai hwn yw’r un cywir ar hyn o bryd,” meddai llefarydd.
Mae disgwyl i gynhadledd wanwyn y blaid i gael ei chynnal rhwng 11 a 12 Mawrth 2022.