Rygbi: Menywod Cymru i wynebu De Affrica yng ngêm agoriadol Cyfres WXV

Llun: Asiantaeth Huw Evans
Branwen Metcalfe / Asiantaeth Huw Evans

Fe fydd menywod Cymru yn wynebu De Affrica nos Wener yng ngêm agoriadol Cyfres WXV nos Wener ym Mharc yr Arfau. 

Y blaen-asgellwyr Alex Callender a Kate Williams fydd yn gyd-gapteiniaid ar y tîm ar gyfer y gêm brawf, sef y gyntaf o bedair yng Nghyfres WXV Vodafone Cymru.

Bydd yr asgellwr Amy Williams, a wnaeth sgorio dau gais yn y fuddugoliaeth dros dîm y Barbariaid mewn gêm ryngwladol heb gapiau yn Twickenham, yn ennill ei chap cyntaf nos Wener.

Mae disgwyl i’r bachwr Shanelle Williams a’r prop Elan Jones gael eu galw o’r fainc hefyd i ennill eu capiau cyntaf nhw yn erbyn y Springboks.

Williams fydd y 10fed chwaraewr i ennill ei chap cyntaf dros Gymru ers i Sean Lynn gymryd yr awenau yn 2025.

Mae’r wythwr Bryonie King yn ymuno â Callender a Williams yn rheng ôl Cymru, gyda Branwen Metcalfe a Georgia Evans yn yr ail reng.

Mae'r prop Maisie Davies, y bachwr Kelsey Jones a’r prop Sisilia Tuipulotu wedi eu dewis yn y rheng flaen.

Seren Lockwood fydd y mewnwr a bydd Keira Bevan yn dechrau’n safle maswr am y tro cyntaf dros ei gwlad, gyda Courtney Keight yn y canol gyda Freya Bell.

Bydd Seren Singleton, sy’n dychwelyd i’r tîm, ar yr asgell dde gyda Williams yn dechrau ar yr asgell chwith, a Lisa Neumann sydd wedi ei dewis yn safle’r cefnwr.

Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: "Roedd y broses o ddewis y tîm ar gyfer nos Wener yn anodd iawn – felly fe benderfynais roi’r cyfle i’r rhai oedd wedi ymarfer yn wirioneddol ardderchog ers i ni ddod yn ôl at ein gilydd. 

"Mae pob un o’r chwaraewyr yn gwybod yn iawn ei bod yn fraint gwisgo’r crys coch ac mae gan bob un o’r 23 y cyfle i wneud eu hunain, eu teuluoedd a’r genedl yn falch nos Wener."

Ychwanegodd: "Ry’n ni’n gwybod y bydd hon yn gêm brawf galed iawn ac mae pob aelod o’r garfan yn ymwybodol o’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw wrth gynrychioli Cymru. Mae’r fainc yn gryf ac mae pob un o’r chwaraewyr yn deall yn iawn yr hyn ry’n ni’n ei ddisgwyl ganddyn nhw yn erbyn y Springboks."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.