Dim lleoedd hyfforddi i gymdeithion meddyg yng Nghymru ar gyfer 2027
Ni fydd unrhyw leoedd hyfforddi i gymdeithion meddyg yng Nghymru am yr ail flwyddyn olynol, gyda'r llywodraeth yn dweud bod angen mwy o amser i ystyried dyfodol y rôl yn dilyn adolygiad annibynnol.
Mae cymdeithion meddyg, neu PAs (physician associates), yn gweithio gyda meddygon a gweithwyr iechyd eraill ac yn gallu cyflawni nifer o dasgau clinigol o dan oruchwyliaeth.
Ond mae’r rôl wedi derbyn beirniadaeth chwyrn yn ddiweddar, yn enwedig ynglŷn â'u hyfforddiant, eu cyfrifoldebau a’u defnydd o fewn y GIG.
Daw’r penderfyniad i oedi'r rhaglenni addysg yn dilyn Adolygiad Leng, sef adolygiad annibynnol o rôl cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthetig (AAs).
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn, mewn egwyddor, argymhellion yr adolygiad ac yn gweithio gyda'r GIG i ystyried sut y gellir bwrw ymlaen â'i ganfyddiadau.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gwnaethom gytuno ar ail flwyddyn saib ar gyfer rhaglenni addysg cymdeithion meddyg yng Nghymru ar gyfer carfan 2027.
"Bydd yr amser ychwanegol yn caniatáu ystyriaeth bellach o oblygiadau Adolygiad Leng annibynnol a gofynion y gweithlu yn y dyfodol cyn gwneud penderfyniadau ynghylch trefniadau comisiynu yn y dyfodol."
Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe sydd fel arfer yn cynnal hyfforddiant i gymdeithion meddyg yng Nghymru.
Ond yn ôl y corff sy'n darparu addysg i'r gweithlu iechyd yng Nghymru, nid oedd digon o alw i gynnal yr hyfforddiant.
Dywedodd Addysg a Gwelliant Iechyd Cymru: "Nododd y cynlluniau gweithlu diweddaraf gan sefydliadau GIG Cymru nad oedd digon o alw i gynnal carfan, ac felly cytunwyd gyda Llywodraeth Cymru ar fraenar blwydd arall.
"Mae argaeledd cyfleoedd cyflogaeth yn ffactor pwysig. Mae rhai Cymdeithion Meddygol cymwys yn dal i chwilio am rolau, tra bod sefydliadau GIG Cymru wedi nodi galw cyfyngedig iawn am leoedd hyfforddi pellach.
"Mae'n bwysig bod penderfyniadau ynghylch comisiynu addysg yn seiliedig ar ofyniad gweithlu clir a chynaliadwy."
'Cynnydd yn llawer rhy araf'
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi bod yn feirniadol o'r defnydd o gymdeithion meddyg, gan godi pryderon am ddiogelwch cleifion.
Dywedodd Dr Deiniol Jones, Cadeirydd Cyngor Cymdeithas Feddygol Prydain: "Mae'r BMA yn parhau i fynegi pryderon am rôl cymdeithion meddyg a’r risgiau i ddiogelwch cleifion.
"Mae cleifion yn haeddu gwybod pwy sy’n eu trin a pha safon o ofal y gallant ddisgwyl ei chael, ac felly mae llywodraethu cadarn a thryloywder yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cleifion yn teimlo’n ddiogel a bod staff yn gallu gweithio’n effeithiol o fewn lefel eu cymhwysedd."
Ychwanegodd: "Er mai’r penderfyniad i barhau i ohirio’r rhaglen addysg yng Nghymru yw’r peth diogel a chywir i’w wneud, mae cynnydd yn y maes hwn wedi bod yn llawer rhy araf.
"Yn gynharach eleni, pleidleisiodd Cyngor Cymru y BMA i gynyddu’r pwysau ar Lywodraeth Cymru i ohirio ar unwaith hyfforddiant a chyflogaeth cymdeithion meddyg, newid eu teitl o ‘gydymaith’ i ‘gynorthwyydd’ a mabwysiadu argymhellion adolygiad Leng ar unwaith."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ynglŷn â threfniadau ar gyfer hyfforddiant y tu hwnt i 2027.
