Canser y fron: Dylai pob bwrdd iechyd gynnig Enhertu i gleifion cymwys medd Llywodraeth Cymru
Dylai pob bwrdd iechyd yng Nghymru gynnig y cyffur canser Enhertu i gleifion cymwys, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Daw wedi i'r sefydliad iechyd cenedlaethol NICE gyhoeddi ddydd Iau ei fod wedi newid penderfyniad cychwynnol i beidio ag argymell Enhertu ar gyfer defnydd eang yn GIG Lloegr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai cleifion yng Nghymru sydd â math penodol o ganser y fron nad oes modd ei wella gael mynediad at y driniaeth, os yw telerau cytundeb newydd gan y corff sy’n asesu meddyginiaethau yn berthnasol i GIG Cymru.
“Rydym yn croesawu’r newyddion bod NICE wedi dod i gytundeb gyda’r gweithgynhyrchwyr i sicrhau bod Enhertu ar gael,” meddai llefarydd.
“Unwaith y bydd y gweithgynhyrchydd yn cadarnhau bod telerau’r cytundeb yn berthnasol i GIG Cymru fel y disgwyliwn, dylai pob bwrdd iechyd sicrhau bod Enhertu ar gael i’r rhai sy’n gymwys i’w gael.”
Yn 2024, roedd NICE wedi dweud nad oedd y driniaeth yn “gost-effeithiol”.
Mae’r sefydliad bellach wedi cadarnhau y bydd Enhertu ar gael “o heddiw ymlaen” i fenywod â chanser y fron HER2-isel yn Lloegr.
Mae’r driniaeth eisoes wedi bod ar gael yn yr Alban ers mwy na dwy flynedd.
Dyma’r driniaeth dargedig gyntaf sydd wedi’i thrwyddedu ar gyfer cleifion â chanser y fron HER2-isel nad oes modd ei dynnu drwy lawdriniaeth, neu sydd wedi lledu i rannau eraill o’r corff, sef canser y fron metastatig.
Mae treialon clinigol wedi dangos bod menywod â chanser y fron a gymerodd y cyffur wedi goroesi am tua dwy flynedd, o gymharu â 17.5 mis i’r rhai a gafodd gemotherapi.
‘Diwrnod arwyddocaol iawn’
Dywedodd yr elusen Breast Cancer Now fod y cyhoeddiad yn Lloegr yn “arwyddocaol iawn”.
Dywedodd Claire Rowney, prif weithredwr yr elusen: “Ar ôl mwy na dwy flynedd o ymgyrchu di-baid, mae Enhertu bellach wedi’i argymell gan NICE i’w ddefnyddio ar y GIG yn Lloegr ar gyfer pobl sydd â chanser y fron metastatig HER2-isel.
“Mae hwn yn ddiwrnod arwyddocaol iawn i filoedd o bobl a fydd bellach yn gallu cael mynediad at gyffur a all roi’r cyfle iddynt gael amser gwerthfawr ychwanegol gyda’u hanwyliaid. Mwy o ddiwrnodau cyffredin sy’n troi’n rhai arbennig oherwydd eu bod yno.
“Mae’r fuddugoliaeth hon yn perthyn i bob person a wrthododd dderbyn bod mynediad at driniaeth a all ymestyn bywyd y tu hwnt i’w cyrraedd.
“I bobl yn Lloegr, mae’r aros am Enhertu drosodd o’r diwedd. Rhaid inni nawr weld Cymru a Gogledd Iwerddon hefyd yn sicrhau bod Enhertu ar gael ar y GIG i’r rhai sydd angen mwy o amser i fyw.”
Ychwanegodd: “Ers 2024, pan gafodd ei wrthod gyntaf i’w ddefnyddio, mae miloedd o bobl wedi methu â chael mynediad at Enhertu ac, yn drasig, mae nifer wedi marw.
“Rydym yn cofio gyda diolch dwfn y menywod a safodd gyda ni ac a frwydrodd am yr union foment hon.”