Y dyn busnes Owain Davies wedi marw mewn damwain awyren yn y Swistir
Mae'r dyn busnes Owain Davies o Borth Tywyn yn Sir Gâr wedi marw mewn damwain awyren fechan yn y Swistir.
Roedd Mr Davies, 55 oed, yn rheolwr gyfarwyddwr ar gwmni gweithgynhyrchu metel Amcanu ym Mhorth Tywyn - cwmni gafodd ei sefydlu gan ei dad Spencer Davies OBE yn 1975.
Yn ogystal â'i waith ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu, roedd Mr Davies hefyd yn beilot hofrennydd profiadol.
Wrth rhoi teyrnged iddo, dywedodd ei fab, Aron, fod “Dad yn gymeriad arbennig.”
“Roedd yn berson brwdfrydig a phenderfynol, ac yn rhywun na fyddai byth yn derbyn bod problem yn rhy fawr i’w datrys,” meddai.
“Rwy’n hynod falch o bopeth a gyflawnodd, ond rwy’n fwy balch byth o’r ffaith ei fod yn dad i mi.
“Ef oedd fy mentor drwy gydol fy mywyd, yn bersonol ac ym myd busnes, ac rwy’n gwybod y bydd llawer o bobl yn Amcanu yn teimlo eu bod nhw hefyd wedi colli mentor.”
Ychwanegodd: “Mae ein teulu wedi dioddef colled annirnadwy, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y caredigrwydd a’r gefnogaeth rydym eisoes wedi’u derbyn.”
Mae Mr Davies yn gadael ei wraig Michelle, ei blant Aron a Ffion, ei dad Spencer, a’i wyrion Oakley ac Albie.
Damwain yn y Swistir
Yn ôl Amcanu, roedd Mr Davies yn deithiwr ar yr awyren fechan Cirrus SR22T a plymiodd i'r ddaear yn y Swistir, ochr yn ochr â "dau ffrind agos a gollodd eu bywydau hefyd."
Dywedodd yr heddlu yn y Swistir, fod yr awyren wedi plymio ar lethr gogleddol mynydd yn ardal Loeche-les-Bains, neu Leukerbad yn Almaeneg, yn ardal ddeheuol Valais ychydig ar ôl 16:00 ddydd Mawrth.
Dywedodd llygaid-dystion eu bod wedi gweld llawer iawn o fwg ar ôl y ddamwain.
Aeth y gwasanaethau brys o Valais i'r lleoliad, gan ddod o hyd i'r tri dioddefwr oedd wedi marw.
'Cymro balch'
Roedd gwreiddiau Mr Davies yn ddwfn ym mro Porth Tywyn. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Parc y Tywyn, ble bu'n llywodraethwr yn ddiweddarach, ac yn Ysgol y Strade yn Llanelli.
Roedd yn gadeirydd ar asiantaeth ddatblygu Awen Teifi am wyth mlynedd, ac hefyd yn aelod o gyngor CBI Cymru rhwng 2005-2022.
Tan yn ddiweddar roedd yn ymddiriedolwr ac yn aelod o fwrdd elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a bu'n gwirfoddoli gyda'r bad achub am gyfnod hefyd.
Cymerodd yr awenau yn Amcanu, gafodd ei sefydlu gan ei dad, yn 2000, gan roi "gwerth enfawr" ar ddatblygu prentisiaid a sgiliau staff o fewn y busnes.
"Roedd Owain yn uchel ei barch ym myd gweithgynhyrchu a busnes yng Nghymru, ond i’r rhai oedd yn ei adnabod yn bersonol, roedd yn llawer mwy na hynny," meddai'r cwmni mewn datganiad.
"Roedd yn berson penderfynol, llawn bywyd ac yn hynod ofalgar, gyda dawn naturiol i ddatrys problemau. Roedd yn wynebu bywyd gydag egni ac argyhoeddiad mawr. Byddai’n dweud yn aml: 'Does dim ffasiwn beth â phroblemau… dim ond cyfleoedd.'"
Ychwanegodd: "Yn Gymro a siaradwr Cymraeg balch, roedd e hefyd yn lais cryf dros y diwydiant gweithgynhyrchu Cymreig a busnesau Cymreig."
Dywedodd y cwmni hefyd y bydd y teulu'n parhau'n rhan bwysig o'r busnes.
'Meddyliau gyda'r teuluoedd'
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor bod swyddogion yn cefnogi teuluoedd dau ddinesydd Prydeinig fu farw yn y ddamwain yn y Swistir.
“Rydym yn darparu cefnogaeth i deuluoedd dau o Brydain a fu farw yn y Swistir, ac rydym mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol.
“Mae ein meddyliau gyda’r teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”