Newyddion S4C

Ymgyrchydd hinsawdd wedi ei hanafu’n ddifrifol mewn damwain paramotor

The Independent 20/09/2021
Sacha Dench

Mae ymgyrchydd hinsawdd oedd ar daith o amgylch Prydain i godi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd wedi ei hanafu’n ddifrifol yn dilyn damwain paramotor, gydag un aelod o’i thîm cynorthwyol wedi ei ladd.

Roedd Sacha Dench ar gylchdaith 3,000 milltir o hyd cyn cynhadledd Cop26 y Cenhedloedd Unedig sy’n cael ei chynnal yn yr Alban yn yr hydref.

Mewn datganiad, dywedodd ymddiriedolwyr Cadwraeth Heb Ffiniau (Conservation Without Borders) fod y ddamwain wedi digwydd yng ngorllewin Ucheldir yr Alban ger Loch Na Gainmhich.

Dywedodd yr ymddiriedolwyr bod Ms Dench wedi ei hanafu’n ddifrifol, ond nad yw’r anafiadau yn peryglu ei bywyd, gan ychwanegu bod Dan Burton, y paramotorydd cynorthwyol, wedi ei ladd o ganlyniad i’r ddamwain.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Llun: Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.