Carol Vorderman i dderbyn gwobr arbennig BAFTA Cymru
Bydd y cyflwynydd teledu Carol Vorderman yn derbyn Gwobr Siân Phillips am Gyfraniad Arbennig yn seremoni wobrwyo BAFTA Cymru eleni.
Mae’r wobr yn un o anrhydeddau uchaf BAFTA Cymru, ac yn cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i deledu.
Wrth gyhoeddi’r newyddion, dywedodd BAFTA Cymru fod y wobr yn anrhydeddu ei gyrfa arloesol a’i chyfraniad at dorri tir newydd i fenywod ar y sgrin.
Bydd yr ysgolhaig o Rydychen hefyd yn cael cydnabyddiaeth am ei gwaith yn hyrwyddo addysg STEM, sef gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Vorderman oedd un o'r menywod cyntaf i siarad ar Channel 4 gan ymddangos ar y sianel am y tro cyntaf yn 21 oed.
O dderbyn y wobr, dywedodd Carol Vorderman: “Fe wnes i agor y llythyr a meddwl, ‘Wir?’ Ac yna fe ddarllenais i’r rhestr o dderbynwyr eraill fel Russell T Davies a phawb a meddwl, ‘Waw!’
"Ro’n i’n teimlo’n ostyngedig iawn a dw i’n edrych ymlaen yn fawr.
"Pan o’n i’n dechrau fy ngyrfa, doedd dim swyddi, yn enwedig yn y gogledd. Doedd y cyfleoedd sydd ar gael i bobl nawr yng Nghymru ac yn y rhanbarthau ddim yn bodoli."
Wrth sôn am Countdown fel un o’r llwyddiannau mae hi fwyaf balch ohonynt, ychwanegodd Carol: “Fe wnaethon ni ddatblygu’r rhaglen i fod yr hyn ddaeth hi, fe wnaethon ni weithio’n galed iawn arni, ac fe wnaethon ni lot o chwerthin.
"Roedd yn gyfnod hudolus."
Ei mam wnaeth gais ar ei rhan ar gyfer y sioe gwis Countdown ar Channel 4.
Aeth Carol ymlaen i fod yn wyneb cyfarwydd ar y rhaglen, ochr yn ochr gyda'r cyflwynydd Richard Whiteley.
Bu’n gyfrifol am y rowndiau rhifau rhwng 1982 a 2008.
Yn ystod ei gyrfa, mae hi hefyd wedi ymddangos ar sawl rhaglen gan gynnwys Loose Women, Better Homes, Tomorrow’s World, Lorraine a Have I Got News for You.
Vorderman hefyd sydd yn gyfrifol am sefydlu gwobrau Pride of Britain ac mae'n eu cyflwyno nhw'n flynyddol ers 1999.
Roedd hi hefyd yn un o'r rhai cyntaf i gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith ar S4c sy'n rhoi'r cyfle i bobl adnabyddus o Gymru yn dysgu’r iaith ochr yn ochr â mentoriaid Cymraeg, lle cafodd ei pharu â’r darlledwr a chyflwynydd, Owain Wyn Evans.
Evans fydd yn cyflwyno seremoni Gwobrau Bafta Cymru eleni ar ddydd Sul, 4 Hydref, a hynny am y trydydd tro.
Bydd Vorderman yn derbyn yr anrhydedd yn ystod y seremoni.