Cyhoeddi cynllun Llythrennedd a Rhifedd newydd mewn ysgolion

Plant yn darllen

Mae cynllun newydd wedi’i gyhoeddi i wella llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion yng Nghymru.

Y nod, meddai'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, yw “codi safonau yn ein hysgolion”.

Daw’r cynllun mewn ymateb i bryderon sydd wedi’u codi gan athrawon a’r sector addysg yn ehangach, meddai Llywodraeth Cymru.

Yr wythnos diwethaf, cafodd canlyniadau PISA eu cyhoeddi oedd yn dangos bod Cymru wedi sgorio’n is na gwledydd eraill y DU mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

Bydd y cynllun yn gosod targedau newydd ar gyfer gwella llythrennedd a rhifedd, gyda thargedau unigol ar gyfer disgyblion o'r cyfnod pan maen nhw'n dechrau yn yr ysgol gynradd. Byddan nhw wedyn yn cael eu hasesu eto ym Mlwyddyn 6.

Y bwriad hefyd yw adnabod yn gynnar y disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol.

Bydd targed cenedlaethol hefyd i gynyddu presenoldeb, gyda'r nod o leihau'r bwlch rhwng disgyblion difreintiedig a disgyblion eraill.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan: “Fel llywodraeth newydd, rydyn ni wedi gwneud addysg yn un o'n prif flaenoriaethau, ac rydyn ni'n cymryd camau pendant i godi safonau yn ein hysgolion, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

“Mae cyfrifoldeb arnom ni i gael llythrennedd a rhifedd yn iawn, er mwyn y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer gweithredu ac yn rhoi i athrawon ac ysgolion yr eglurder y maent wedi bod yn galw amdano yn sgil cyfnod hir o ddiwygio.

“Mae llythrennedd a rhifedd wrth wraidd popeth rydyn ni'n anelu at ei gyflawni. Dyma'r sylfeini y mae dysgu, gwaith a bywyd yn gyffredinol wedi'u hadeiladu arnynt. Mae heddiw yn garreg filltir bwysig wrth adeiladu system addysg effeithiol, hyderus a chydweithredol sy'n gweithio i bob dysgwr ac yn grymuso pob partner i ffynnu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.