Artistiaid yn rhoi’r gorau i daith Ed Sheeran ar ôl i Macklemore gael ei hepgor
Mae'r artistiaid oedd i fod i gefnogi Ed Sheeran ar weddill ei daith yn America wedi dweud na fyddan nhw'n parhau i berfformio ar ôl i'r rapiwr Macklemore gael ei dynnu oddi ar y daith.
Cafodd y penderfyniad ei wneud yn dilyn sylwadau a wnaeth Macklemore am Gaza.
Mae Aaron Rowe a’r band o Ddenmarc, Lukas Graham, wedi dweud na fyddan nhw'n parhau gyda'r daith.
Fe wnaeth y band gwerin Gwyddelig Beoga, sy’n perfformio gydag Ed Sheeran ar y llwyfan, hefyd ddweud eu bod yn tynnu’n ôl.
Mae Finneas, brawd a chydweithiwr cerddorol y seren bop Billie Eilish, hefyd wedi dweud na fydd yn cefnogi Sheeran ar ei ddyddiadau yn Ne America yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Finneas mewn datganiad: “Ni ddylai artistiaid gael eu tawelu pan maen nhw'n codi llais dros y rhai sy'n cael eu gormesu.”
Daeth y cyhoeddiadau gan yr artistiaid ychydig oriau ar ôl i Ed Sheeran ddweud nad oedd am gael ei dynnu i mewn i ddadl gyhoeddus am Gaza.
'Byth am siomi'r ffans'
Mewn neges ar Instagram, dywedodd Sheeran nad ei benderfyniad ef oedd tynnu Macklemore oddi ar weddill y daith.
Yr hyrwyddwyr wnaeth y penderfyniad, meddai Sheeran.
“Fyddwn i byth yn siomi’r ffans sydd wedi gwneud cynlluniau, nac yn cefnu ar griw’r daith a’r artistiaid cefnogol a’r cerddorion eraill sy’n dibynnu arna i am waith ac i ennill bywoliaeth,” meddai.
Roedd Macklemore wedi galw am “Balesteina rydd” a dangos lluniau o’r dinistr yn Gaza yn ystod dau gyngerdd yn New Jersey.
Cafodd ei sylwadau eu beirniadu gan grwpiau Iddewig, gyda deiseb yn cael ei llunio yn galw arno i gael ei dynnu oddi ar weddill y daith.
Ddydd Llun, dywedodd Macklemore ei fod wedi cael gwybod na fyddai'n cael parhau gyda'r daith. Dywedodd fod y biliwnydd Robert Kraft wedi chwarae rhan yn y penderfyniad.
Cadarnhaodd Kraft ei fod wedi gwrthod caniatáu i Macklemore berfformio yn ei leoliad, gan gyhuddo'r rapiwr o fod â “hanes ehangach o rethreg wrth-Semitaidd”.
“Rwy’n cytuno â Macklemore fod gormod o fywydau wedi’u colli a bod gormod o ddioddefaint wedi bod, ond dydy rhannu gwybodaeth ddetholus yn unig ac anwybyddu gweithredoedd Hamas ddim yn onest ac mae ond yn arwain at fwy o raniadau a chasineb,” meddai Kraft.
Yn ei neges ar Instagram, dywedodd Ed Sheeran ei fod wedi bod yn siarad yn helaeth â’r lleoliadau drwy gydol yr wythnos “i geisio dod i gytundeb” – ond mai’r lleoliadau a'r hyrwyddwyr oedd wedi gwneud y penderfyniad terfynol.
Dywedodd ei fod “wedi’i arswydo gan y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina” a bod “y dioddefaint a’r boen sydd wedi’u hachosi ar y ddwy ochr yn drasiedi ddynol”.
Ond ychwanegodd: “Nid yw’r ffaith fy mod yn dewis peidio â siarad yn gyhoeddus yn golygu nad oes gen i safbwyntiau, nac yn golygu nad oes ots gen i.
“Nid yw ychwaith yn golygu nad ydw i’n cefnogi achosion yn fy ffordd bersonol fy hun.”
Aeth ymlaen: “Mae rheswm pam nad ydw i’n defnyddio fy llwyfan proffesiynol i drafod gwleidyddiaeth – mae fy nghynulleidfa yn cynnwys pobl ifanc, plant yn aml, o bob cefndir.
“Dydy’r rhai sy’n dod i fy sioeau ddim yn disgwyl fforwm gwleidyddol. Rwy’n parchu penderfyniad Macklemore i sefyll dros yr hyn y mae’n ei gredu a dweud hynny’n glir.
“Fodd bynnag, mae lle i wahanol ffyrdd o geisio cyrraedd yr un nod: heddwch.”
Sylwadau'r cerddorion
Dywedodd Rowe nad oedd y penderfyniad i roi'r gorau i'r daith wedi bod yn un hawdd.
Ychwanegodd na allai “sefyll o’r neilltu” a gadael i biliwnyddion “dawelu lleisiau cyfiawn y rhai sy’n codi eu llais yn erbyn hil-laddiad Israel”.
Dywedodd Lukas Graham y dylai fod modd “codi llais am ryfel, am sifiliaid sy'n cael eu lladd, am blant sy'n haeddu cael tyfu i fyny”.
“Dim ots lle maen nhw'n byw. Pa bynnag faner sy'n chwifio drostyn nhw.”
Ychwanegodd Beoga: “Fel cerddorion, mae cael perfformio o flaen cynulleidfaoedd fel hyn bob nos yn gwireddu breuddwyd, ond yn syml iawn, dydy perfformio mewn lleoliadau sy’n tawelu unrhyw un sy’n galw am Balesteina rydd ddim yn opsiwn i ni.”
Llun: Ian West/PA