Yr Unol Daleithiau yn cadarnhau eu bod nhw wedi gosod arf yn y gofod
Mae’r Unol Daleithiau wedi cadarnhau am y tro cyntaf eu bod wedi gosod arf yn y gofod.
Dywedodd Ysgrifennydd Llu Awyr yr Unol Daleithiau, Troy Meink, fod yr arf sydd yn orbit y Ddaear yn angenrheidiol er mwyn diogelu lluoedd America rhag gweithredoedd eu gelynion.
Wrth siarad yn y Gynhadledd Awyr, Gofod a Seiber ddydd Llun, dywedodd Meink fod yr Unol Daleithiau yn barod am “fygythiadau sy’n esblygu”.
Ond ni roddodd ragor o fanylion am alluoedd yr arf na phryd y cafodd ei osod yn orbit y Ddaear.
Mae gweinyddiaeth Trump wedi dweud bod arfau yn y gofod yn rhan hanfodol o’i system amddiffyn arfaethedig, y “Gromen Aur”.
Bwriad y system yw diogelu’r Unol Daleithiau rhag taflegrau a bygythiadau eraill o’r awyr.
Cafodd Llu Gofod yr Unol Daleithiau ei sefydlu yn 2019, y gangen newydd gyntaf o luoedd arfog y wlad ers dros 70 mlynedd.
Ei bwrpas oedd diogelu asedau America yn y gofod, gan gynnwys cannoedd o loerennau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer cyfathrebu a gwyliadwriaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llu Gofod yr Unol Daleithiau: “Mae rheoli’r gofod yn cwmpasu’r meysydd gweithredu sydd eu hangen i gystadlu am reolaeth dros y gofod a’i reoli.”
Roedd hyn yn cynnwys “gwanhau” gelynion yr Unol Daleithiau “a hyd yn oed eu dinistrio, os oes angen”.
“Mae modd defnyddio’r galluoedd hyn at ddibenion ymosodol ac amddiffynnol ar gyfarwyddyd y gorchmyniaethau ymladd,” meddai.