Canolfan Ddata Menai: Pa gyrff sy'n gwrthwynebu'r cais cynllunio?

Data Menai

Mae cynllun i adeiladu canolfan ddata enfawr ar lan afon Menai rhwng Caernarfon a'r Felinheli wedi ennyn cryn ymateb ers i'r lluniau cyntaf o ddyluniad y safle gael eu rhannu gan Newyddion S4C yr wythnos ddiwethaf.

Fe fyddai'r safle ar ffurf campws yn cynnwys pump o adeiladau mawr petai'r cynllun yn derbyn caniatâd cynllunio gan Gyngor Gwynedd.

Byddai'r holl safle yn mesur 41 hectar - sydd yr un faint â 57 o gaeau pêl-droed, ac fe fyddai'r adeilad uchaf yno dros 30 metr o uchder.  

Fe allai'r ganolfan ddefnyddio 700,000 litr o ddŵr y dydd yn ystod diwrnod cyffredin, ac hyd at 12,000,000 litr pan fyddai'r defnydd ar ei uchaf.

Dywed y datblygwyr na fydd unrhyw effaith ar gyflenwadau dŵr lleol, ac ni fyddai'r cynllun yn tynnu dŵr o’r Fenai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth Newyddion S4C fod "gan fuddsoddiadau mewn canolfannau data y potensial i greu cyfleoedd economaidd newydd a chefnogi cyflogaeth fedrus."

Image
Menai
Dyluniad posib un o adeiladau'r ganolfan ddata, o'r cais cynllunio

Ers i'r cais gael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd, mae nifer o gyrff cyhoeddus wedi lleisio eu gwrthwynebiad ar sail polisïau cynllunio ac amgylcheddol i'r ganolfan.

Cafodd yr ymatebion eu rhoi i'r cyngor cyn i'r datblygwyr, Gwelyfenai Ltd, ddarparu Asesiad o Efaith Amgylcheddol i adran gynllunio Cyngor Gwynedd yr wythnos diwethaf.

Fe allai'r ymatebwyr addasu eu barn yn y dyfodol ar sail unrhyw wybodaeth newydd.

'Niwed sylweddol'

Ymysg y cyrff sydd wedi datgan eu gwrthwynebiad i'r cais mae Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd wedi dweud y byddai'r safle yn achosi niwed "sylweddol" i'r ardal gyfagos.

Yn eu llythyr i Gyngor Gwynedd, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig oherwydd yr effeithiau niweidiol sylweddol ar y dirwedd ac ar yr olwg a fyddai'n deillio ohono i Dirwedd Cenedlaethol Ynys Môn a'i leoliad." 

Mae Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn yn ardal arfordirol arbennig sy'n cael ei diogelu am ei harddwch a'i hanes.

Ychwanegodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu llythyr o wrthwynebiad fod yr effeithiau posib "yn ymwneud yn sylfaenol â maint enfawr yr adeilad(au) (y cyfuniad o'u hestyniad llorweddol a fertigol) a'r effaith a gaiff hynny ar leoliad Tirwedd Cenedlaethol Ynys Môn. 

"Oherwydd eu maint, byddai'r adeiladau arfaethedig yn gwneud nodweddion y dirwedd gyfagos yn ymddangos yn ddibwys ac yn sefyll allan fel datblygiad sy'n dominyddu, yn anghydnaws ac yn ymwthiol yn weledol wrth edrych arnynt o Dirwedd Cenedlaethol Ynys Môn."

Image
menai
Trawstoriad o un o'r adeiladau ar y safle (Llun: Gwelyfenai Ltd)

Roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru bryderon hefyd na fyddai unrhyw gamau gan y datblygwyr i blannu coed yn cuddio'r adeiladau:

"Credwn y byddai'r datblygiad arfaethedig yn parhau i ddominyddu unrhyw fesurau lliniaru sy'n cynnwys plannu, fel rhan o'r cais. 

"Byddai hyn yn digwydd yn bennaf oherwydd maint enfawr y strwythurau adeiladedig a fyddai i'w gweld yn y golygfeydd. 

"Lle byddent i'w gweld, byddai rhannau uchaf ac ymylon to adeiladau'r datblygiad arfaethedig yn amlwg fel blociau llorweddol ar wahân (yn codi hyd at 30m uwchben y llwyfannau) uwchben unrhyw lystyfiant rhyngddynt. 

"Yn nodweddiadol, ni fyddai unrhyw lystyfiant (coed) presennol neu newydd a ddarperir fel mesur lliniaru yn uwch na 10-15m (hyd yn oed pan fyddant yn aeddfed), ac felly byddent yn llai na hanner uchder y strwythurau adeiladedig newydd fel y'u cynigiwyd."

Roedd cwmni trydan SP Energy Networks hefyd yn gwrthwynebu'r datblygiad, a hynny oherwydd "bod y cynigion yn cael effaith niweidiol ar y ceblau trosglwyddo tanddaearol presennol."

Dŵr Cymru

Corff arall sydd wedi lleisio gwrthwynebiad i'r datblygiad yw Dŵr Cymru, a hynny gan nad oedd digon o "gapasiti yn y rhwydwaith garthffosiaeth i ymdopi â dŵr gwastraff fyddai'n rhedeg o'r safle."

"Os yw'r datblygiad arfaethedig yn dymuno gollwng dŵr gwastraff i'r carthffos gyhoeddus, rydym wedi ystyried effaith y llif dŵr gwastraff a gynhyrchir gan y datblygiad ac wedi dod i'r casgliad ei bod yn annhebygol bod digon o gapasiti i ddarparu ar gyfer y datblygiad o fewn y system garthffosiaeth gyhoeddus leol heb niweidio'r gwasanaethau presennol a ddarparwn i'n cwsmeriaid, nac effeithio'n negyddol ar ddiogelu'r amgylchedd."

Nid oedd digon o wybodaeth yn y cais i esbonio faint o ddŵr fyddai ei angen i oeri unrhyw gyfarpar chwaith meddai Dŵr Cymru yn eu hymateb:

"Mae'r ddogfennaeth yn darparu manylion cyfyngedig ynghylch y technolegau oeri penodol y bwriedir eu defnyddio. 

"Mae'n hysbys iawn y gall rhai technolegau oeri ddefnyddio symiau sylweddol o ddŵr. 

"Er mwyn sicrhau nad oes unrhyw effaith niweidiol ar gyflenwadau dŵr yfed yn yr ardal gyfagos, gofynnwn i'r wybodaeth ganlynol gael ei chyflwyno i gefnogi'r cais: Disgrifiad manwl o'r technolegau a'r dulliau oeri arfaethedig; ac amcangyfrif o'r defnydd dyddiol a blynyddol o ddŵr fesul adeilad."

Dywedodd Dŵr Cymru mai eu bwriad oedd datgan gwrthwynebiad dros dro ('holding objection') i'r datblygiad o ganlyniad.

Image
map Menai
Arwynebedd ardal y datblygiad (yn y bocs coch), gyda cheisiadau cynllunio eraill blaenorol gerllaw. Caernarfon sydd i'r de (Llun: Cyngor Gwynedd)

Mae gwrthwynebiad i'r cynllun hefyd o dros y Fenai ym Môn.

Wrth ymateb i'r cais cynllunio, dywedodd Colette Redfern o Wasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Cyngor Môn fod yr awdurdod cynllunio lleol yn gwrthwynebu'r datblygiad ar sail "effaith weledol sylweddol."

"Mae'r safle yn gwynebu Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn a bydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y golygfeydd o'r AHNE. 

"Mae angen gwybodaeth ychwanegol i asesu’r effaith weledol y datblygiad, fel trawsdoriad trwy'r safle o'r A4871 i’r Afon Menai," ychwanegodd.

'Anferth ei faint'

Mae Cyngor Tref Caernarfon wedi nodi gwrthwynebiad i'r cynllun, gan ddweud fod y "diffyg manylion allweddol yn rhwystredig".
 
Dywed y cyngor fod y datblygiad yn "anferth ei faint, a byddai’r gwasanaeth a gynigir yn mynd ymhell y tu hwnt i anghenion y boblogaeth leol yng ngogledd-orllewin Cymru, ac o bosibl gogledd Cymru, Cymru gyfan, a thu hwnt."

"Er bod y cynllun yn cynnwys tir ôl-ddiwydiannol... mae hefyd yn cynnwys tir glas sy’n cael ei ffermio ar hyn o bryd. Mae colli’r adnodd hwn ar gyfer cynhyrchu bwyd yn peri pryder."

Ychwanegodd y cyngor fod pryderon hefyd am effaith amgylcheddol y ganolfan: "Byddai’r cynllun hefyd yn effeithio ar goedlannau; mae hyn yn bryder o safbwynt cynnal amrywiaeth o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion gwyllt."

Ymysg eu pryderon eraill roedd pryder am effaith llwybr beicio Lôn Las gerllaw, yr effaith ar drigolion cyfagos, a'r defnydd o wres.

"O ystyried ei leoliad, ymddengys na fyddai’n ymarferol gwneud defnydd cadarnhaol o’r gwres a gynhyrchir gan y broses."

Mae Cyngor Cymuned y Felinheli hefyd wedi codi pryderon am y datblygiad, gydag "uchder yr adeilad arfaethedig yn parhau i fod yn bryder."

"Mynegwyd dewis am ddyluniad sy’n osgoi llinellau syth caeth ac sy’n cynnwys mwy o wydr i leddfu’r effaith weledol" meddai'r cyngor.

Ychwanegodd fod y "cynigion presennol ar gyfer budd cymunedol yn ymddangos yn gyfyngedig."

"Argymhellir ymrwymiadau pendant, megis gwelliannau i Lôn Las, er mwyn sicrhau manteision lleol pendant o’r datblygiad."

Image
Data Menai
Yr olygfa o'r ganolfan o Ynys Môn (Llun: Gwelyfenai Ltd)

Bywyd gwyllt

Mae RSPB Cymru wedi gwrthwynebu'r cais, a hynny ar sail adroddiad amgylcheddol "diffygiol".

Dywed y corff gwarchod adar fod ganddyn nhw bryderon am "effeithiau niweidiol posibl ar boblogaethau o adar sydd o bwysigrwydd cydnabyddedig o ran cadwraeth; a diffygion mewn arolygon adar a diffyg mesurau lliniaru priodol."

"Mae'r cais yn brin o ddata cyfoes pwysig am adar. Credwn fod absenoldeb arolwg bridio yn anderbyniol. Argymhellwn ddarparu asesiad ecolegol o'r nythfa gwylanod, gan gynnwys arolwg penodol i bennu nifer y parau sy'n bridio. 

"Dylai'r asesiad bennu effaith y cynnig a chynnwys mesurau lliniaru."

Nid oedd gan Wasanaeth Tân Gogledd Cymru unrhyw wrthwynebiad yn eu hymateb i'r cais.

Ymateb y datblygwr

Wrth ymateb i ymholiad gan Newyddion S4C i bryderon am ddefnydd y ganolfan ddata o ddŵr, a'r effaith amgylcheddol ar y safle, dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Ddata Menai:

“Ni fydd unrhyw effaith ar gyflenwadau dŵr lleol, ac ni fyddwn yn tynnu dŵr o’r Fenai.

“Mae’r ffigur o bron i 12 miliwn o litrau y dydd a nodwyd yn yr adroddiad yn cynrychioli senario lle byddai’r defnydd o ddŵr ar ei uchaf, nid y gofyniad dyddiol disgwyliedig. 

"Yn seiliedig ar y technolegau oeri diweddaraf, y senario mwyaf tebygol a nodir yn ein datganiad amgylcheddol yw y bydd angen tua 700,000 litr o ddŵr y dydd. 

"Mae hyn yn gymaradwy â gofynion dŵr gwesty mawr, ysbyty neu gyfleuster cynhyrchu bwyd.

“Bydd y datblygiad hwn hefyd yn mynd i’r afael â’r perygl y mae’r safle wedi’i beri i iechyd a diogelwch y cyhoedd ers blynyddoedd. 

"Mae safle hen ffatri Ferodo wedi bod yn beryglus ac wedi’i halogi ag asbestos ers 2008, gydag achosion mynych o fandaliaeth a llosgi bwriadol."

Ychwanegodd y cwmni y byddai'r cynlluniau yn "sicrhau bod y safle’n cael ei lanhau’n drylwyr, a hynny drwy gyllid preifat." 

"Bydd hyn yn cynnwys cael gwared ag asbestos a halogiad arall yn ddiogel, yn unol â rheoliadau gwastraff peryglus. Bydd y gwaith yn mynd i’r afael â’r risgiau y mae’r safle’n eu peri ar hyn o bryd, heb roi unrhyw faich ariannol ar y cyngor na thrigolion lleol."

Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i ymholiad gan Newyddion S4C ynglŷn a'i safbwynt ar ganolfannau data, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn credu mewn dull cynaliadwy a chytbwys i ddatblygu canolfannau data. Rydym yn cydnabod bod canolfannau data yn ddwys o ran ynni. 

"Wrth i’r galw am seilwaith digidol dyfu, mae’n bwysig bod datblygiadau newydd yn defnyddio technolegau a dulliau sy’n lleihau’r defnydd o ynni ac adnoddau.

 “Mae unrhyw ddatblygiad canolfan ddata arfaethedig yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r system gynllunio bresennol a’r rheoliadau amgylcheddol, gyda gwiriadau a chydbwyseddau cadarn ar waith i sicrhau bod effeithiau amgylcheddol a chymunedol yn cael eu hystyried yn briodol cyn rhoi caniatâd."

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae gan fuddsoddiadau mewn canolfannau data y potensial i greu cyfleoedd economaidd newydd a chefnogi cyflogaeth fedrus. 

"Ond mae Llywodraeth Cymru yn credu bod rhaid i fusnesau, cymunedau ac economi ehangach Cymru deimlo manteision unrhyw fuddsoddiad.”

Ima

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.