'Na dim diolch!': Ymateb chwyrn i gynllun canolfan ddata anferth ar y Fenai

Data Menai

Mae'r lluniau cyntaf o gynllun canolfan ddata anferth ar lan y Fenai yng Ngwynedd wedi derbyn ymateb chwyrn ar y we.

Brynhawn dydd Gwener, fe wnaeth Newyddion S4C gyhoeddi lluniau o gynllun Canolfan Ddata Menai, fyddai ar hen safle ffatri Ferodo rhwng Caernarfon a'r Felinheli.

Fe fyddai'r safle ar ffurf campws yn cynnwys pump o adeiladau mawr iawn petai'r cynllun yn derbyn caniatâd cynllunio gan Gyngor Gwynedd.

Byddai'r holl safle yn mesur 41 hectar - sydd yr un faint a 57 o gaeau pêl-droed, ac fe fyddai'r adeilad uchaf yno dros 30 metr o uchder.  

Mae hyn dri metr yn uwch na Thŵr Marcwis dros y Fenai ar Ynys Môn.

Pan fyddai'r gofyn amdano ar ei ar ei uchaf, fe allai'r ganolfan ddata ddefnyddio hyd at bron i 12,000,000 litr o ddŵr y diwrnod.

Dywed y datblygwyr na fydd unrhyw effaith ar gyflenwadau dŵr lleol, ac ni fyddai'r cynllun yn tynnu dŵr o’r Fenai.

Image
menai
Dyluniad o drawstoriad o un o'r adeiladau ar y safle (Llun: Gwelyfenai Ltd)

Yr ymateb hyd yma

Mae'r ymateb i'r lluniau cyntaf o gynlluniau Canolfan Ddata Menai wedi bod yn feirniadol ar y cyfan, er fod un neu ddau lais yn gefnogol.

Wrth wneud sylw ar gyfrif Facebook Newyddion S4C, dywedodd Diane Roberts fod y cynllun yn un "erchyll", gyda "dylanwad negyddol ar fywyd natur, cyflenwad dŵr, trydan."

Un arall oedd yn cytuno oedd Beth Hel Jôs, gan ddweud na fyddai'n gwneud "dim lles i'r ardal leol. Mwy o gymryd o Gymru a chynnig dim yn ôl. Angen i ni gyd wrthwynebu hyn."

Dywedodd Huw Gareth Jones ei fod yn "wir gobeithio fydd y Gweinidog dros Cynllunio yn gwrando ar y gwrthwynebiadau gan bobl lleol.

"Yn amlwg does yna ddim atab sydyn i'r safle yma oherwydd ei hanes, ond yn bendant dim canolfan data yw'r ateb."

Mae'r safle wedi ei lygru gan asbestos ddaeth o ffatri Ferodo ac fe fyddai'n costio miliynau i gael gwared arno. 

Mae'r datblygwyr tu ôl i gynllun Canolfan Ddata Menai wedi dweud mai eu bwriad fyddai cael gwared ar y gwastraff asbestos yma, a hynny heb ddibynnu ar arian cyhoeddus i wneud hynny.

Cafodd cais blaenorol i adeiladu pentref gwyliau ar y safle ei wrthod.

Image
map Menai
Arwynebedd ardal y datblygiad (yn y bocs coch), gyda cheisiadau cynllunio eraill blaenorol gerllaw. Caernarfon sydd i'r de (Llun: Cyngor Gwynedd)

Un gair yn unig oedd gan Dai Thomas mewn ymateb ar Facebook, ac "Afiach!" oedd hwnnw.

Dywedodd Elin McGowan fod "angen gwrthwynebu yn daer yn erbyn hyn".

Un arall oedd yn cytuno oedd Eleri Elin, gan ddweud "Dim diolch!!! Isio achub ein byd da ni isio, ddim ei ddinistrio hefo hwn."

Dywedodd Shan Ashton fod "cymunedau a thaleithau America yn ei gwrthod yn llwyr!

"Angen rhoi troed i lawr a dweud NA!! Os ydy Lloegr angen nhw, croeso iddynt fan yna ond NID yng Nghymru."

Ond nid pawb oedd yn anghytuno gyda'r cynllun.

Gofynnodd Sion Jobbins "pam lai", gan ychwanegu fod "Pobl, llywodraeth, NHS, busnes yn defnyddio AI.

"Angen gofal o beidio ilidio gormod ond mae angen rhai canolfannau."

Image
Data Menai
Yr olygfa o'r ganolfan o Ynys Môn (Llun: Gwelyfenai Ltd)

Dywed y datblygwyr, Gwelyfenai Ltd, y byddai'r gwaith o adeiladu'r safle'n creu 950 o swyddi, "gyda 210 o swyddi eraill lleol" unwaith y bydd y ganolfan wedi ei sefydlu. 

Fel rhan o'r cais cynllunio, cafodd dogfen Datganiad Dylunio a Mynediad ei chyflwyno i'r cyngor.

Mae'r ddogfen honno yn nodi fod canolfannau data yn cael eu dylunio "i gartrefu seilwaith digidol sefydliad yn ddiogel."

"Yn syml, warws ydyw sy'n cartrefu seilwaith TG a thelathrebu ar ffurf raciau o weinyddion cyfrifiadurol.

"Mae faint o ddata sy'n cael ei gynhyrchu ac sydd angen ei storio yn cynyddu'n gyflym, wedi'i ysgogi gan y trawsnewid yn y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio, a rôl technoleg mewn gweithgareddau personol, llywodraethol a busnes."

Ychwanegodd y datganiad fod twf sylweddol yn y galw am ganolfannau data, a hynny "wedi'i ysgogi gan anghenion fel Deallusrwydd Artiffisial a gwasanaethau digidol uwch."

Ymateb y datblygwyr

Dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Ddata Menai wrth Newyddion S4C:  “Ni fydd unrhyw effaith ar gyflenwadau dŵr lleol, ac ni fyddwn yn tynnu dŵr o’r Fenai.

“Mae’r ffigur o bron i 12 miliwn o litrau y dydd a nodwyd yn yr adroddiad yn cynrychioli senario lle byddai’r defnydd o ddŵr ar ei uchaf, nid y gofyniad dyddiol disgwyliedig. 

"Yn seiliedig ar y technolegau oeri diweddaraf, y senario mwyaf tebygol a nodir yn ein datganiad amgylcheddol yw y bydd angen tua 700,000 litr o ddŵr y dydd. 

"Mae hyn yn gymaradwy â gofynion dŵr gwesty mawr, ysbyty neu gyfleuster cynhyrchu bwyd.

“Bydd y datblygiad hwn hefyd yn mynd i’r afael â’r perygl y mae’r safle wedi’i beri i iechyd a diogelwch y cyhoedd ers blynyddoedd. 

"Mae safle hen ffatri Ferodo wedi bod yn beryglus ac wedi’i halogi ag asbestos ers 2008, gydag achosion mynych o fandaliaeth a llosgi bwriadol."

Ychwanegodd y cwmni y byddai'r cynlluniau yn "sicrhau bod y safle’n cael ei lanhau’n drylwyr, a hynny drwy gyllid preifat." 

"Bydd hyn yn cynnwys cael gwared ar asbestos a halogiad arall yn ddiogel, yn unol â rheoliadau gwastraff peryglus. Bydd y gwaith yn mynd i’r afael â’r risgiau y mae’r safle’n eu peri ar hyn o bryd, heb roi unrhyw faich ariannol ar y cyngor na thrigolion lleol."

Twf canolfannau data

Yn ôl gwaith ymchwil gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, Cymru oedd gyda’r capasiti canolfannau data uchaf y tu allan i Lundain ym Mhrydain yn 2024, gyda chapasiti o 154 megawat (MW) yng Nghymru a 1,048 MW yn Llundain. 

Mae nifer y canolfannau data yn tyfu'n gyflym yng Nghymru gyda nifer o ddatblygiadau wedi'u cynllunio ar hyd a lled y wlad. 

Mae dadansoddiad diweddar gan DESNZ dangos bod defnydd trydan canolfannau data yn ne-orllewin Lloegr a Chymru wedi dyblu rhwng 2020 a 2024.

Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan Sian Gwenllian AS, y gweinidog yn Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am gynllunio.

Mae Newyddion S4C hefyd wedi gofyn am safbwynt Llywodraeth Cymru ar ganolfannau data.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.