Ynys Môn: Dileu £680,000 o rent heb ei dalu gan gwmni aeth i’r wal
Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod dileu dyled rhent o dros £684,000 oedd yn ddyledus gan gwmni oedd yn rhentu ffatri yn Llangefni, Ynys Môn.
Fe aeth cwmni PV France Limited, oedd yn cyflogi rhwng 25 a 45 o staff ar ei anterth, i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Mehefin 2023. Cafodd ei ddiddymu ym mis Medi 2024.
Roedd y cwmni wedi’i leoli yn Uned 9, Bryn Cefni, Llangefni, uned ddiwydiannol 24,890 troedfedd sgwâr, o dan brydles 15 mlynedd a ddechreuodd yn 2009.
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i sawl cynllun talu er mwyn cefnogi’r busnes a diogelu swyddi.
Roedd hynny yn hytrach na chymryd camau i gyfyngu ar y ddyled rhent ac adennill meddiant o’r eiddo, meddai.
“Am y rhesymau hynny y cronnodd y ddyled dros gyfnod mor hir,” meddai Adam Price.
Nid oedd PVFL yn gallu cynnal yr ad-daliadau yn y pen draw oherwydd amodau masnachu oedd yn dirywio ac yn sgil colli contractau allweddol, meddai.
Roedd y cwmni’n arbenigo mewn cynhyrchu bara a theisennau Ffrengig i’w dosbarthu ledled y DU, gan gyflenwi archfarchnadoedd bach, cadwyni coffi a chwmnïau awyrennau.
“Profodd y busnes rwystr mawr ym mis Medi 2017 yn dilyn diddymu’n sydyn Monarch Airlines, ei brif gontract cyflenwi, ac fe’i heffeithiwyd ymhellach gan bandemig COVID-19, a gyfyngodd yn ddifrifol ar deithio byd-eang ac a amharodd ar gadwyni cyflenwi,” meddai’r gweinidog.
Dyw'r cwmni ddim yn bodoli erbyn hyn, felly does dim modd cymryd camau adfer yn ei erbyn, meddai.
Ychwanegodd Adam Price fod systemau “eisoes ar waith i nodi, cyfyngu ac osgoi sefyllfaoedd o’r math hwn”.
“Ystyriwyd a ddylid diwygio’r systemau hyn yn awr, fodd bynnag, mae achosion o ddyled ar y raddfa hon, o ystyried y rhent blynyddol, yn brin oherwydd trefniadau presennol,” meddai.
“Mae angen asesu pob achos ar ei rinweddau unigol, gan gydbwyso amcanion polisi economaidd ehangach yn erbyn rheoli dyled rhent.”
