Angen Bil AI newydd ‘i fynd i’r afael â bygythiadau i hawliau dynol’ medd gwleidyddion
Mae angen Bil deallusrwydd artiffisial (AI) newydd “i fynd i’r afael â maint a difrifoldeb y bygythiadau i hawliau dynol,” meddai grŵp trawsbleidiol o ASau ac aelodau Tŷ’r Arglwyddi.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Llun, dywedodd y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol (JCHR) fod amryw o risgiau i hawliau dynol yn deillio o’r dechnoleg.
Nid yw’r trefniadau rheoleiddio a chyfreithiol presennol “yn ddigon parod i’w hatal nac i ymateb iddyn nhw,” medden nhw.
Dywedodd y pwyllgor fod cyfreithiau presennol y DU a allai fod yn berthnasol i AI yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn hytrach na’r rheini sy’n datblygu’r dechnoleg.
Ychwanegodd nad oes gan reoleiddwyr y pŵer i brofi ac asesu systemau AI cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau.
Dywedodd cadeirydd y JCHR, yr AS Llafur Alex Sobel, fod AI “yn datblygu mor gyflym ac mewn ffyrdd mor gymhleth nes ei bod yn anodd rhagweld ei effaith”.
“Yr hyn sy’n glir yw nad ydyn ni ar hyn o bryd yn barod i ddelio â’i ganlyniadau, waeth pa mor ddifrifol y gallen nhw fod,” meddai.
“Nid oes gan unrhyw le yn y byd, gan gynnwys y DU, drefn gyfreithiol a rheoleiddio ar gyfer AI sy’n addas ar hyn o bryd.
“Mae angen deddfwriaeth newydd i sefydlu cyfres gynhwysfawr o fesurau diogelu sy’n cynnwys cadwyn gyflenwi gyfan AI a’i gylchred oes.
“Mae angen sefydlu un rheoleiddiwr AI i bennu polisi a monitro perfformiad, gyda phwerau digon cryf i orfodi’r rheolau.”
‘Cyflymach’
Daw’r adroddiad ddyddiau ar ôl i benaethiaid yn y diwydiant alw am arafu datblygiad y dechnoleg.
Dywedodd pennaeth Anthropic, Dario Amodei, ddydd Sadwrn ei fod yn poeni bod AI wedi bod yn “datblygu’n llawer iawn cyflymach” ers yr haf hwn.
O ystyried cyflymder y datblygiadau, dywedodd Mr Amodei ei fod yn poeni y gallai AI, o fewn chwech i 12 mis, fygwth y rhyngrwyd cyfan.
Cafodd ei draethawd, o’r enw We Must Pace the Frontier, gefnogaeth gan arweinwyr eraill yn y diwydiant, gan gynnwys pennaeth Grok, Elon Musk, a chyd-sylfaenydd OpenAI, Sam Altman.
