Elfyn Evans yn yr ail safle yn Rali Chile
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn yr ail safle ar ôl dau ddiwrnod o gystadlu yn Rali Chile.
Mae Evans 19.1 eiliad tu ôl i Oliver Solberg o Sweden sy’n arwain y rali ar ôl y 12 cymal cyntaf.
Ond mae Sébastien Ogier o Ffrainc yn dynn wrth sodlau Evans, gyda 1.3 eiliad yn unig rhwng y ddau.
Mae Evans yn arwain Pencampwriaeth y Byd ar hyn o bryd gyda 20 pwynt o fantais dros Sami Pajari o’r Ffindir gyda dwy rali yn weddill ar ôl Chile.
Inline Tweet: https://twitter.com/ElfynEvans/status/2098885647394071006
Oni bai am unrhyw anffawd, fe fydd Evans yn cadw ei le ar frig y tabl dim ond iddo gadw ar y blaen i Pajari sydd yn bumed yn Chile ar hyn o bryd, 56.4 o eiliadau tu ôl i'r Cymro gyda phedwar cymal yn weddill ddydd Sul.
Fe fydd y cystadleuwyr yn symud ymlaen i'r Eidal ymhen tair wythnos.
Llun: X/Elfyn Evans
