Carchar i ddyn o Loegr am ddwyn cebl copr o fusnes ym Mhorthmadog

Thomas Keenan

Mae dyn 24 oed o Loegr wedi cael ei garcharu ar ôl dwyn cebl copr gwerth miloedd o bunnoedd o fusnes ym Mhorthmadog.

Cafodd Thomas Keenan, o Montgomery Road, Walsall, ei ddedfrydu i garchar am 13 mis yn Llys y Goron Caernarfon ar ôl cyfaddef byrgleriaeth yn flaenorol.

Fe wnaeth Keenan dresmasu, ynghyd â dau arall, ar safle BT ym mis Mai 2023 a dwyn chwe drym o gebl copr, gwerth tua £4,000.

Dywedodd Cwnstabl Stephen Jones o Heddlu’r Gogledd: “Dydy lladrad copr ddim yn drosedd heb ddioddefwr, ac mae’n cael effeithiau go iawn ar fusnesau ac aelodau’r gymuned.

“’Da ni’n cymryd adroddiadau o fyrgleriaeth o ddifrif, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.