Gwynedd: Cynllun i sefydlu hwb cymunedol mewn hen ysgol
Mae menter gymdeithasol yng Ngwynedd yn gobeithio sefydlu hwb a chaffi cymunedol mewn hen ysgol.
Mae Menter Fachwen wedi cyflwyno cais i gymryd prydles hirdymor ar gyn safle Ysgol Cwm-y-glo.
Mae’r elusen yn darparu addysg, cyfleoedd datblygu a hyfforddiant i unigolion ag anableddau dysgu.
Mae’r fenter wedi tyfu’n rhy fawr i’w safle presennol ac mae am rentu adeilad yr ysgol am swm nominal er mwyn sefydlu cyfleuster cymunedol.
Cafodd Ysgol Cwm-y-glo ei chau ar 31 Awst 2019 ar ôl i nifer y disgyblion ostwng o 17 i ddim.
Yn ôl adroddiad i Gabinet Cyngor Gwynedd, bwriad y grŵp cymunedol yw creu “gofod sy’n diwallu anghenion y gymuned” ac a fyddai’n “sicrhau defnydd cymunedol o’r safle”.
Dywedodd yr adroddiad: “Mae’r sefydliad wedi llwyddo i sicrhau cyllid grant i gyflawni cam cyntaf y gwaith adnewyddu ac mae’n awyddus i symud ymlaen i wireddu’r cynllun, wrth iddo dyfu y tu hwnt i’w safle presennol.”
Pe bai prydles yn cael ei chaniatáu, y cam nesaf fyddai cynnal ymgynghoriad ehangach â’r gymuned.
Ychwanegodd yr adroddiad: “Mae Menter Fachwen yn datblygu cyfres o astudiaethau achos sy’n dangos effaith gadarnhaol eu gwasanaethau ar unigolion, gan ddarparu tystiolaeth glir o ganlyniadau a fydd yn cefnogi ceisiadau grant yn uniongyrchol.
“Maen nhw wedi sicrhau cyllid i ddarparu pryd cymunedol wythnosol, sy’n cael ei baratoi a’i weini gan bobl ag anableddau dysgu sy’n cael eu cefnogi gan yr elusen.
“Mae’r prydau hyn yn boblogaidd ac yn cynnig cyfleoedd cymdeithasol pwysig, gan helpu i feithrin cysylltiadau cymunedol cryfach a chreu rhagor o gyfleoedd i ymgysylltu’n ystyrlon â’r gymuned ehangach.”
Gallai’r hwb hefyd ddarparu a chynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cymunedol.
'Lleihau unigrwydd'
Dywedodd Gwilym Evans, cynghorydd Llanberis, yn adroddiad y Cabinet: “Rwy’n falch iawn o gael cynnig sylwadau ynghylch trosglwyddo Ysgol Cwm-y-glo i ddwylo medrus Menter Fachwen – datblygiad sydd â chefnogaeth gref gan y gymuned.
“Bydd gofod cymunedol yn rhan o’r hyn fydd ar gael, ac mae galw sylweddol wedi bod am hyn ymhlith trigolion lleol.
“Mae Hwb Dyffryn Peris wedi’i sefydlu’n gymharol ddiweddar, ac mae gwaith rhagorol wedi bod yn digwydd yno i gefnogi pobl leol ac i ehangu gweithgarwch cymunedol.
“Bydd sefydlu’r Hwb yn yr ysgol yn ei gryfhau ac yn ei helpu i dyfu a datblygu ymhellach."
Dywedodd y gallai'r adeilad gynnig gofod i drinwyr gwallt, giropodyddion, a sefydliadau fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.
Byddai caffi cymunedol ar y safle hefyd, a fydd yn "denu pobl ac yn creu awyrgylch bywiog ac arferion cymdeithasol cadarnhaol sy’n helpu i leihau unigrwydd ac i ddod â’r gymuned ynghyd." ychwanegodd Mr Evans.
“Rwy’n credu mai dyma’n union sydd ei angen ar Gwm a’r ardal gyfagos.”
Bydd y Cabinet yn trafod y mater pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 15 Medi.