'Creu cymuned fywiog': Sefydlu Clwb Ffermwyr Ifanc newydd yng Nghaerdydd
Mae Clwb Ffermwyr Ifanc newydd yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd, gyda’r nod o greu “cymuned fywiog” i bobl ifanc o gefndiroedd gwledig yn y brifddinas, yn ôl y pwyllgor.
Mae grŵp o bobl ifanc sydd bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd wedi dod ynghyd i ddatblygu’r syniad.
Fe wnaeth nifer o'r grŵp symud i Gaerdydd o gymunedau gwledig ar draws Cymru er mwyn astudio yn y brifysgol neu i weithio, gyda chlybiau ffermwyr ifanc yn rhan annatod o'u bywydau adref.
Roedd y grŵp yn teimlo bod sefydlu clwb o'r fath yng Nghaerdydd yn gyfle i greu "rhywbeth unigryw" a fydd yn "cynnal y cysylltiad â chefn gwlad Cymru".
Dywedodd Dafydd James, cadeirydd y clwb: “Mae cymaint ohonom wedi symud i Gaerdydd o bob rhan o Gymru ar gyfer y brifysgol neu ein gyrfaoedd, ac er bod y ddinas yn cynnig cymaint, mae llawer ohonom yn gweld eisiau’r gymuned sydd gennym adref drwy’r Ffermwyr Ifanc.
“Dyna oedd y sbardun i’r syniad. Rydyn ni eisiau creu clwb sy’n teimlo fel CFfI, ond sydd hefyd yn adlewyrchu bywyd pobl ifanc yng Nghaerdydd - rhywle i wneud ffrindiau, rhoi cynnig ar bethau newydd, cystadlu, gwirfoddoli a chadw’r cysylltiad hwnnw â’n cymunedau ledled Cymru."
'Cyfle cyffrous'
Bwriad y clwb fyddai i adeiladu cymuned Gymraeg a bywiog gyda rhaglen yn cynnwys gweithgareddau cymdeithasol, digwyddiadau diwylliannol, cyfleoedd gwirfoddoli, ymweliadau, siaradwyr gwadd a chystadlaethau.
Fe fydd y clwb yn agored i bobl ifanc rhwng 18 a 28 oed.
Ychwanegodd Mared Rand Jones, Prif Weithredwr CFfI Cymru: "Mae’n wych gweld pobl ifanc yn cymryd yr awenau ac yn edrych ar ffyrdd newydd o ddod â’r Ffermwyr Ifanc at ei gilydd.
"Mae ein mudiad wedi’i adeiladu ar gymuned, cyfeillgarwch, datblygu sgiliau a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc - ac mae’r egwyddorion hynny yr un mor berthnasol yng nghanol Caerdydd ag ydynt mewn cymunedau gwledig ledled Cymru.
"Mae sefydlu clwb yn y brifddinas yn gyfle cyffrous i gadw pobl ifanc sydd wedi symud o’u cymunedau cartref yn gysylltiedig â’r mudiad, yn ogystal â chyflwyno CFfI i bobl sydd efallai heb gael y cyfle i fod yn rhan ohono o’r blaen."