Heddlu'n ymchwilio ar ôl adroddiadau o ddwyn byrnau gwair mewn sawl lleoliad yn y gogledd

Byndeli gwair

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ar ôl adroddiadau o ddwyn byrnau gwair o leoliadau gwledig ar draws Ynys Môn, Conwy a Wrecsam.

Rhybuddiodd y llu fod gwair a silwair yn nwyddau gwerthfawr, gyda throseddwyr yn gallu targedu byrnau sydd wedi'u storio mewn caeau diarffordd neu mewn mannau lle mae mynediad hawdd i gerbydau.

Mae gwair yn cael ei storio mewn byrnau er mwyn ei ddefnyddio'n bennaf fel bwyd i dda byw, yn enwedig dros fisoedd y gaeaf pan fo llai o laswellt ar gael.

Yn ôl yr heddlu, gall lladradau o'r fath achosi colled ariannol sylweddol ac amharu ar waith ffermydd.

Mae swyddogion yn annog ffermwyr i storio byrnau gwair mor agos â phosibl at adeiladau neu iardiau fferm sy'n cael eu defnyddio'n rheolaidd, ac i sicrhau mynedfeydd caeau gyda gatiau, cadwyni a chloeon.

Maen nhw hefyd yn cynghori ffermwyr i gadw cofnod o nifer y byrnau sydd ganddyn nhw a ble maen nhw'n cael eu storio.

Argymhelliad yr heddlu yw defnyddio camerâu cylch cyfyng neu offer gwyliadwriaeth arall, yn ogystal â chyfyngu ar fynediad i gaeau.

Mae ffermwyr hefyd yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o gerbydau anghyfarwydd, yn enwedig trelars gwastad neu beiriannau amaethyddol sy'n symud ar adegau anarferol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn i unrhyw un sy'n gweld gweithgarwch amheus neu ladrad ffonio 999.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.